Hanes y Blynyddoedd o'r Blaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 38 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q192551 (translate me)
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 1:
[[Brut]] neu gronicl sy'n adrodd hanes [[Y Slafiaid|Slafiaid y Dwyrain]] o'r Diluw hyd at y flwyddyn [[1110]] yw'r '''Brut Cynradd Rwsieg''' ([[Rwsieg]] ''Повесть временных лет'' / ''Povest' vremennykh let''; Hen Slafoneg Dwyreiniol ''Pověsti Vremyan'nykh Lět'', 'Hanes y Blynyddoedd Gynt'). Credir iddo gael ei gyfansoddi ar ei ffurf gynharaf yn ystod y ddeuddegfed ganrif, gan ddechrau gyda fersiwn goll dybiedig a sgrifennwyd ym [[1113]]. Er ei fod yn gynharach o ran dyddiad cyfansoddi na'r holl frutiau Rwsieg canoloesol eraill sydd ar glawr heddiw, y llawysgrif hynaf ohono yw'r Brut Lawrentiaidd, sy'n dyddio i'r bedwaredd ganrif ar ddeg ([[1377]]). Y prif lawysgrifau eraill yw'r Brut Hypatiaidd (dechrau'r bymthegfed ganrif), Brut Radzvilov a Brut Academi Moscfa (y ddau o ddiwedd y bymthegfed ganrif). Mae parhâd hyd at [[1117]] yn y Brut Hypatiadd, ac mae Brut Academi Moscfa yn estyn y digwyddiadau a ddisgrifir hyd at y bymthegfed ganrif.
 
[[Image:Prizvanievaryagov.jpg|thumbbawd|300px|rightdde|''Dyfodiad Rurik yn Ladoga'' gan Apollinary Vasnetsov (1856-1933)]]
 
Ynghyd â [[Brut Cyntaf Nofgorod]], mae'r Brut Cynradd Rwsieg yn arbennig o bwysig am ei fod yn disgrifio digwyddiadau cynnar yn hanes Slafiaid y Dwyrain. Er enghraifft, mae'n adrodd sut y daeth tri brawd [[Llychlynwyr|Llychlynnaidd]] a'u llwyth, y Rŵs, i greu gwladwriath Rwsia: