Dalai Lama: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Gweler hefyd: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llinell 2:
:''Erthygl am linach y Dalai Lama yw hon. Am y Dalai Lama presennol, gweler [[Tenzin Gyatso, 14eg Dalai Lama]].''
Arweinydd ysbrydol a gwleidyddol pobl [[Tibet]] yw'r '''Dalai Lama''' ([[Tibeteg]] ཏཱ་ལའི་བླ་མ་, ynganer ''taa la'i bla ma''). Cyfeirir ato gan y [[Tibetiaid]] gan amlaf fel "Ei Sancteiddrwydd", neu "Ei Sancteiddrwydd y Dalai Lama", neu ''Gyalwa Rinpoche'', sy'n golygu "Buddugwr Gwethfawr", neu ''Yeshe Norbu'', sy'n golygu "Yr Em sy'n Gwireddu Dymuniadau." Mae "[[Lama]]" ("yr un uwchradd", neu "athro") yn deitl a roddir i sawl gradd o glwerigwr ym [[Bwdhaeth Tibet|Mwdhaeth Tibet]].
[[FileDelwedd:Dalai Lama 1471 Luca Galuzzi 2007.jpg|bawd|chwith|Tenzin Gyatso, y 14ydd Dalai Lama.]]
 
Mae'r Tibetiaid yn credu mai'r Dalai Lama yw'r ymrithiad presennol mewn cyfres hir o [[Tulku]]s, neu Feistri [[Bwdhaeth|Bwdhaidd]] sydd wedi llwyddo i ymryddhau o afael olwyn marwolaeth a genegigaeth. Fel y [[Bodhisattva]]s, mae'r meistri hyn wedi dewis o wirfodd i gael eu aileni yn y byd er mwyn dysgu'r ddynolryw.