Yr Ymerodraeth Fysantaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Breckenheimer (sgwrs | cyfraniadau)
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 11eg ganrif11g, 5ed ganrif5g using AWB
Llinell 32:
Pan fu farw yn [[474]], olynwyd ef [[Leo II]], mab ei ferch Ariadne a'i gadfridog [[Zeno (ymerawdwr)|Zeno]]. Bu farw Leo II yn ddiweddarach y flwyddyn honno, a daeth Zeno yn ymerawdwr ar ei ben ei hun. Nid oedd yn boblogaidd gyda'r bobl, oherwydd mai tramorwr a ystyrid yn farbariad ydoedd. Bu gwrthryfel yn ei erbyn, a'i gorfododd i ffoi i [[Antioch]], a daeth [[Basiliscus]] yn ymerawdwr yn 475. Fodd bynnag, aeth Basiliscus yn amhoblogaidd yn fuan, a gallodd Zeno ddychwelyd y flwyddyn wedyn, ac alltudio Basiliscus i [[Phrygia]].
 
Roedd sefyllfa ymerodraeth y gorllewin wedi dirywio'n raddol yn ystod y [[5ed ganrif5g]]. Yn [[455]], llofruddiwyd dau ymerawdwr, a bu un arall farw mewn terfysg. Ar [[4 Medi]], [[476]]
diorseddwyd yr ymerawdwr Rhufeinig yn y gorllewin, [[Romulus Augustus]], gan [[Odoacer]], pennaeth yr Heruli. Bu raid i Zeno dderbyn hyn am y tro, ond llwyddodd i drefnu cytundeb heddwch a [[Geiseric]], a roddodd ddiwedd ar ymosodiadau y [[Fandaliaid]]. Bu raid iddo dalu i arweinwyr yr [[Ostrogothiaid]] , [[Theodoric Fawr]] a [[Theodoric Strabo]], i'w cadw rhag ymosod ar Gaergystennin. Yn ddiweddarach, daeth Theodoric yn frenin yr holl Ostrogothiaid wedi marwolaeth Theodoric Strabo, ond cafodd Zeno wared ohono o'r dwyrain trwy ei berswadio i ymosod ar Odoacer yn [[yr Eidal]]. Bu farw Zeno ar [[9 Ebrill]] [[491]], a dewisodd ei weddw, Ariadne, [[Anastasius I]] fel ei olynydd.
 
Llinell 47:
Dychwelodd Belisarius i'r Eidal yn [[544]], lle roedd y sefyllfa wedi newid yn fawr, a'r Ostrogothiaid dan eu brenin newydd [[Totila]] wedi adfenniannu gogledd yr Eidal, yn cynnwys Rhufain. Llwyddodd Belisarius i ail-gipio Rhufain am gyfnod, ond roedd yr ymerawdwr yn amau ei deyrngarwch, a galwyd ef yn ôl o'r Eidal, gyda [[Narses]] yn cymeryd ei le.
 
[[Delwedd:Aya sofya.jpg|thumbbawd|chwith|200px|Hagia Sophia]]
 
Yn ystod teyrnasiad Justinianus yr adeiladwyd eglwys [[Hagia Sophia]] rhwng [[532]] a [[537]] yng Nghaergystennin, a ystyrir yn un o gampweithiau pensaernïaeth Fysantaidd. Y penseiri oedd dau Roegwr, Antemios o Tralles ac Isidoros o Miletus. Bu Justinianus hefyd yn gyfrifol am ail-ysgrifennu [[Cyfraith Rhufain]], y ''[[Corpus Juris Civilis]]'' sy'n parhau i fod yn sylfaen y gyfraith sifil mewn llawer o wledydd. Rhoddwyd diwedd ar gynlluniau mwyaf uchelgeisiol Justinianus gan [[Pla Justinianus|Bla Justinianus]], yn ôl pob tebyg [[y Pla Du]], a darawodd yr ymerodraeth yn y [[540au]] cynnar gan achosi nifer fawr o farwolaethau. Cafodd Justinianus ei hun y pla, ond roedd ef yn un o'r ychydig a lwyddodd i wella ohono. Ceir hanes y cyfnod yng ngwaith yr hanesydd [[Procopius]].
Llinell 104:
== Anterth yr ymerodraeth ==
 
[[Delwedd:Basilios II.jpg|thumbbawd|Basileios II, llun mewn llawysgrif o'r [[11eg ganrif11g]].]]
 
Bu farw'r ymerawdwr [[Romanos II]] yn 963, pan nad oedd ei fab hynaf ond pump oed. Ail-briododd ei wraig, Theophano, ag un o gadfridogion Romanos, a ddaeth yn ymerawdwr fel [[Nikephoros II]] Phokas. Llofruddiwyd Nikephoros yn 969, a daeth cadfridog arall, [[Ioan I Tzimiskes]], yn ymerawdwr. Erbyn iddo ef farw ar [[10 Ionawr]], [[976]], roedd mab hynaf Romanos II yn ddigon hen i ddod i'r orsedd fel [[Basileios II]].
Llinell 114:
== Dirywiad a'r adferiad Komnenaidd ==
 
[[Delwedd:Romanos et Eudoxie.JPG|thumbbawd|200px|chwith|Diptych o Romanus IV Diogenes ac Eudocia Macrembolitissa, yn cael eu coroni gan Grist ([[Bibliothèque nationale de France]])]]
 
Cyhaeddodd [[y Sgism Fawr]], ymraniad yr [[Eglwys Uniongred Ddwyreiniol]] a'r [[Eglwys Gatholig]] oddi wrth ei gilydd, ei uchafbwynt cyntaf yn [[1054]] pan ysgymunwyd y patriarch [[Cerularius, patriarch Caergystennin|Cerularius]] o Gaergystennin ([[1043]] - [[1058]]) gan y [[Pab]] am iddo feirniadu [[gwyryfdod]] fynachaidd orfodol y Gorllewin a defnyddio bara heb ei godi yn yr offeren fel arferion [[heresi|hereticaidd]].
Llinell 162:
Llwyddodd Mihangel VIII i orchfygu Epirus, a bu llawer o ymladd yn erbyn y gelynion oedd yn ei hamgylchynu, ond roedd yr ymerodraeth wedi ei gwanychu'n fawr gan ddigwyddiadau'r blynyddoedd cynt. Parhaodd yr ymladd dan [[Andronikos II Palaiologos|Andronikos II]] a'i ŵyr [[Andronikos III Palaiologos|Andronikos III]], ond roeddynt yn gorfod dibynnu'n drwm ar filwyr hur.
 
[[Delwedd:Byzantium1430.JPG|leftchwith|thumbbawd|Yr Ymerodraeth Fysantaidd (coch) erbyn 1430.]]
 
Erbyn hyn yr [[Ymerodraeth Ottoman]] oedd y bygythiad mwyaf i'r Bysantiaid. Collwyd y rhan fwyaf o [[Asia Leiaf]], ac yn 1354 dinistriwyd y gaer yn [[Gallipoli]] gan ddaergryn, gan alluogi'r Twrciaid i groesi i Ewrop. Enillasant fuddugolaeth ym Mrwydr Kosova a daethant i reoli'r rhan fwyaf o'r Balcanau. Collwyd mwy o diriogaethau, a gostyngodd poblogaeth Caergystennin yn sylweddol iawn.