Belisarius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|sr}} using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 1:
[[Image:David - Belisarius.jpg|300px|rightdde|thumbbawd|Belisarius, gan [[Jacques-Louis David]] ([[1781]])]]
 
'''Flavius Belisarius''', [[Groeg]] Βελισάριος , ([[505]]-[[565]]), oedd cadfridog enwocaf yr [[Ymerodraeth Fysantaidd]]. Dan yr ymerawdwr [[Justinianus I]], bu'n gyfrifol am adfenniannu rhan helaeth o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn y gorllewin, tiriogaethau oedd wedi eu colli am dros ganrif.
Llinell 5:
Credir i Belisarius gael ei eni yn ninas ''Germane'' neu ''Germania'', heddiw [[Sapareva Banya]] yn ne-orllewin [[Bwlgaria]]. Ymunodd a'r fyddin yn ieuanc, a daeth yn aelod o warchodlu'r ymerawdwr [[Justinus I]]. Wedi marwolaeth Justinus, penododd yr ymerawdwr newydd, Justinianus, ef yn gadfridog ar y fyddin yn y dwyrain, i wynebu ymosodiadau gan [[Ymerodraeth Persia]]. Gorchfygodd y Persiaid ym Mrwydr Dara yn [[530]] ac ym Mrwydr Callinicum ar [[Afon Ewffrates]] yn [[531]]. Yn [[532]] ef oedd swyddog uchaf y fyddin yng [[Caergystennin|Nghaergystennin]] pan fu terfysg [[Nika]]yn y ddinas; llwyddodd Belisarius i roi diwedd ar y gwrthryfel, gyda tua 30,000 o bobl yn cael eu lladd.
 
[[Image:Justinien 527-565.svg|thumbbawd|300px|Tŵf tiriogaeth yr Ymerodraeth Fysantaidd rhwng dechrau teyrnasiad Justinianus I (coch, 527) a'i farwolaeth (oren, 565). Belisarius oedd yn bennaf gyfrifol am hyn.]]
 
Penodwyd Belisarius yn arweinydd ymgyrch yn erbyn y [[Fandaliaid]] yng Ngogledd Affrica rhwng [[533]] a [[534]]. Ym [[Brwydr Ad Decimum|Mrwydr Ad Decimum]] ([[13 Medi]] [[533]]) gerllaw [[Carthago]], gorchfygodd [[Gelimer]], brenin y Fandaliaid. Enillodd fuddugoliaeth arall ym mrwydr Ticameron, ac ildiodd Gelimer tua dechrau [[534]].