Y Celtiaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 18fed ganrif18g (2), 5ed ganrif5g, 4edd ganrif4g (2) using AWB
Llinell 8:
Mae'r diffiniad o "Gelt" yn bwnc dadleuol iawn, rhywbeth sy'n wir am Geltiaid yr hen-fyd a'r Celtiaid modern. Awgryma llawer o'r cyfeiriadau at Geltiaid yn yr hen-fyd gan awduron Groegaidd eu bod yn byw i'r gogledd o drefedigaeth Roegaidd Massalia ([[Marseille]] heddiw) yng Ngâl, ond mae rhai awduron i bob golwg yn eu lleoli yng nghanolbarth Ewrop. Dywed [[Herodotus]] eu bod yn byw o gwmpas tarddle [[Afon Donaw]]; ond mae'n eglur ei fod ef yn credu fod Afon Donaw yn tarddu lawer ymhellach i'r gorllewin nag y mae mewn gwirionedd. Lleolir y Celtiaid yng [[Gâl|Ngâl]] gan y rhan fwyaf o awduron Rhufeinig; dywed [[Iŵl Cesar]] fod y bobl oedd yn eu galw eu hunain yn "Geltiaid" yn eu hiaith eu hunain yn byw yng nghanolbarth Gâl.
 
Dechreuodd y defnydd modern o'r term "Celtaidd" yn y [[18fed ganrif18g]] pan ddangosodd [[Edward Lhuyd]] fod ieithoedd megis [[Cymraeg]], [[Llydaweg]] a [[Gwyddeleg]] yn perthyn i'w gilydd. Rhoddodd yr enw "ieithoedd Celtaidd" arnynt. Yn ddiweddarach, yn gam neu'n gymwys, cysylltwyd y Celtiaid a diwylliannau yn yr ystyr archeolegol sy'n cynnwys [[y diwylliant Hallstatt]] a [[diwylliant La Tène]]. Ystyria'r mwyafrif o ysgolheigion fod y "byd Celtaidd" yn yr hen-fyd yn cynnwys [[Celt-Iberiaid]] ([[Portiwgal]] a [[Sbaen]] heddiw, gan gynnwys [[Galicia]]), trigolion [[Prydain]] ac [[Iwerddon]], y Galiaid yng [[Gâl|Ngâl]] ([[Ffrainc]], gogledd [[yr Eidal]], y [[Swistir]] a'r cylch) a'r [[Galatiaid]] ([[Asia Leiaf]]: [[Twrci]] heddiw). Mae rhai ysgolheigion yn dadlau na ddylid ystyried trigolion Prydain ac Iwerddon fel Celtiaid yn yr ystyr yma.
 
Y gwledydd a ystyrir yn "wledydd Celtaidd" heddiw fel rheol yw'r chwe chenedl Geltaidd yng ngogledd-orllewin [[Ewrop]] - [[yr Alban]], [[Cernyw]], [[Cymru]], [[Iwerddon]], [[Ynys Manaw]], a [[Llydaw]]. Mae nifer o daleithiau neu ardaloedd mewn gwledydd eraill hefyd yn hawlio etifeddiaeth Geltaidd, yn arbennig [[Galicia]] ac [[Asturias]] yn [[Sbaen]].
Llinell 66:
===Tiriogaethau'r Celtiaid===
 
[[Delwedd:Celts 800-400BC.PNG|chwith|thumbbawd|250px|Mae'r ardal werdd yn dangos tiriogaeth debygol dylanwad proto-Geltaidd tua [[1000 CCC]] yn ôl un theori. Mae'r ardal brennaidd yn dangos lle ganwyd arddull a diwylliant [[La Tène]]. Mae'r ardal goch yn amlinellu'n fras yr ardaloedd Celtaidd neu dan ddylanwad Celtaidd tua [[400 CCC]]]]
 
Erbyn i awduron clasurol ddechrau crybwyll y Celtiaid yn y 6ed ganrif CCC., roedd pobloedd yn siarad ieithoedd Celtaidd yn ymestyn dros ran helaeth o orllewin a chanolbarth Ewrop, yn cynnwys Gâl, Prydain, rhan helaeth o Benrhyn Iberia a'r rhan o ganolbarth Ewrop i'r gogledd o'r [[Alpau]]. Credir fod y Celtiaid ar Benrhyn Iberia yn ffurfio dau ddiwylliant gwahanol, un grŵp yn y gogledd-orllewin yn cynnwys y llwythau Lwsitanaidd yn yr hyn sy'n awr yn wladwriaeth [[Portiwgal]] a llwythau yng ngogledd a gorllewin [[Sbaen]] megis yn [[Galicia]], [[Asturias]] a [[Cantabria]]. Yr ail grŵp oedd y [[Celtiberiaid]] yng nghanolbarth Sbaen. Credir eu bod hwy yn gymysgedd o Geltiaid oedd wedi ymfudo o Gâl a'r [[Iberiaid]] lleol.
Llinell 74:
[[Delwedd:Ethnographic Iberia 200 BCE.PNG|bawd|dde|240px|Y prif ardaloedd ieithyddol ar Benrhyn Iberia tua 200 CCC.<ref>[http://arkeotavira.com/Mapas/Iberia/Populi.htm]</ref>]]
 
Ymhellach i'r dwyrain, roedd teyrnas Geltaidd y [[Scordisci]] wedi sefydlu eu prifddinas yn Singidunum ([[Belgrade]] heddiw) erbyn y 3edd ganrif CCC. Mae hefyd lawer o olion archeolegol mewn rhannau o [[Hwngari]]. Cofnodir fod Galiaid wedi ymsefydlu yn [[Pannonia]] yn y 3edd ganrif CCC. oherwydd gorboblogi yng Ngâl, ac yn [[279 CCC]] ymosododd byddin o'r Galiaid hyn dan arweiniad [[Brennus (3edd ganrif CCC)|Brennus]] ar y Groegiaid, gan eu gorchfygu yn [[Thermopylae]] a cheisio anrheithio cysegr [[Apollo]] yn [[Delphi]] cyn cael eu gorfodi i encilio. Ymsefydlodd rhai o'r Celtiaid hyn yn [[Thrace]] ([[Bwlgaria]]), a symudodd un garfan i [[Anatolia]] tua [[278 CCC]], lle gelwid hwy'r [[Galatiaid]].<ref>Davies ''Y Celtiaid'' tt. 53-4</ref> Nododd Sant [[Sierôm]] yn y [[4edd ganrif4g]] fod gan y Galatiaid eu hiaith eu hunain, oedd yn debyg i iaith y [[Treveri]] yng Ngâl.<ref>Powell ''The Celts'' t.23</ref>.
 
Y farn gyffredinol hyd yn weddol ddiweddar oedd bod yr ieithoedd Celtaidd wedi cyrraedd Prydain ac Iwerddon trwy i nifer fawr o Geltiaid ymfudo yno o'r cyfandir yn ystod [[Oes yr Haearn]] a disodli'r boblogaeth flaenorol. Barn llawer o ysgolheigion bellach yw na fu ymfudiad mawr o'r fath. Cred rhai bod yr ieithoedd Celtaidd wedi bod yn bresennol yn yr ynysoedd ers [[Oes yr Efydd]], ac awgrymodd Oppenheimer y gallent fod wedi bod yno ers y cyfnod [[Neolithig]].<ref>Stephen Oppenheimer ''The origins of the British'' (Constable, 2006) tt. 408-9</ref>
Llinell 146:
Mae awduron Rhufeinig yn cysylltu'r Celtiaid a'r [[Derwydd]]on ac yn cyfeirio at seremonïau crefyddol mewn llwyni coed sanctaidd. Ceir cyfeiriad at hyn yn hanes [[Tacitus]] am ymosodiad y Rhufeiniad dan [[Suetonius Paulinus]] ar [[Ynys Môn]] yn [[60]] CC.<ref>Cornelius Tacitus ''Annales'' XIV</ref> Yn ôl [[Poseidonius]] ac awduron eraill roedd tri dosbarth yn gyfrifol am grefydd a diwylliant Gâl, y derwyddon, y beirdd a'r ''[[vates]]''.<ref>Dyfyniad yn Freeman ''The philosopher and the druids'' t. 158</ref> Dywed rhai awduron Rhufeinig, er enghraifft Iŵl Cesar a Plinius yr Hynaf, fod y Celtiaid yn aberthu bodau dynol i'r duwiau.<ref>Iŵl Cesar ''Commentarii de Bello Gallico'' 6.16</ref> Yn ôl Cesar, roedd Derwyddiaeth wedi dechrau ym Mhrydain ac wedi lledaenu i Gâl.<ref>Iŵl Cesar ''Commentarii de Bello Gallico'' 6.13</ref>
 
Cyrhaeddodd [[Cristnogaeth]] rannau mwyaf dwyreiniol y byd Celtaidd yn gynnar iawn; er enghraifft ysgrifennodd [[Yr Apostol Paul]] ei [[Llythyr Paul at y Galatiaid|Epistol at y Galatiaid]] cyn [[64]] CC. Roedd Cristnogaeth wedi ei sefydlu yn y rhannau Celtaidd o'r Ymerodraeth Rufeinig erbyn y [[4edd ganrif4g]],<ref>E.G. Bowen "Cristnogaeth gynnar yng Ngâl a gwledydd Celtaidd y gorllewin" yn Bowen (gol) ''Y Gwareiddiad Celtaidd'' t. 137</ref> a chenhadwyd [[Iwerddon]] yn y [[5ed ganrif5g]]. Yn Iwerddon, yr Alban, Cymru a Llydaw, datblygodd yr hyn a elwir yn "Gristionogaeth Geltaidd". Teithiodd cenhadon o Iwerddon, yn arbennig, ar hyd a lled y cyfandir, a thyfodd celfyddyd nodweddiadol. Yr enghraifft enwocaf o'r gelfyddyd yma yw llawysgrif addurnedig [[Llyfr Kells]], sy'n dyddio o tua [[800]].<ref>Davies ''Y Celtiaid'' t. 131</ref>
 
===Ieithoedd===
Llinell 166:
 
==Celtiaid modern==
[[Delwedd:Celtic Nations.svg|chwith|thumbbawd|120px|Y "chwe gwlad" Geltaidd]]
 
Yn y cyfnod diweddar, nododd yr hanesydd Albanaidd [[George Buchanan]] yn ei lyfr ''Rerum Scoticarum Historia'' ([[1582]]) fod grŵp o ieithoedd ym Mhrydain ac Iwerddon a hen iaith Gâl oedd ar wahân i'r ieithoedd Lladin a'r ieithoedd Germainid, a galwodd hwy'r ieithoedd Galaidd. Ef oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair "Celt" am rai o drigolion Prydain ac Iwerddon, gan awgrymu fod Gwyddeleg a Gaeleg yr Alban wedi cyrraedd yno gydag ymfudwyr o dde Gâl. Nid oedd ef yn cynnwys y Brythoniaid yn ei ddefnydd o "Celt".<ref>John Collis, "George Buchanan and the Celts in Britain" yn ''Celtic Connections: proceedings of the tenth international cnference of Celtic Studies'' tt. 91-107</ref>
Llinell 176:
[[Delwedd:Iolomorganwg cropped.jpg|de|bawd|160px|Iolo Morgannwg]]
 
Datblygodd diddordeb yn y Celtiaid trwy'r [[18fed ganrif18g]], er enghraifft llyfrau'r hynafiaethydd [[William Stukeley]] yn rhoi pwyslais ar y derwyddon. Cyhoeddwyd barddoniaeth oedd wedi ei briodoli i'r bardd Gaeleg [[Ossian]], ond a oedd mewn gwirionedd wedi eu hysgrifennu gan [[James MacPherson]], a chawsant dderbyniad brwd. Cafodd [[Iolo Morgannwg]] hefyd ddylanwad mawr; hoerai ef fod beirdd [[Morgannwg]] wedi cadw traddodiad o ddoethineb oedd yn mynd yn ôl i gyfnod y derwyddon.<ref>Koch (gol.) ''Celtic culture'' Cyf. 1, t. 385</ref>
 
Yn y [[19eg ganrif19g]] tyfodd cenedlaetholdeb yn Iwerddon yn arbennig, ac arweiniodd hyn at ddiddordeb yn y Celtiaid fel hynafiaid cenedl y Gwyddelod. Datblygwyd cysylltiadau rhwng y gwledydd Celtaidd, er enghraifft yn dilyn ymweliadau'r Llydäwr [[Théodore Hersart de la Villemarqué]], awdur y [[Barzaz Breiz]], a Chymru yn 1838 a 1839. Ymhlith yr astudiaethau ysgolheigaidd dylanwadol gellir nodi ''Essaie sur la Poésie des Races Celtiques'' (1854) gan [[Ernest Renan]] ac ''On the Study of Celtic Literature'' (1867) [[Matthew Arnold]].<ref>Davies ''Y Celtiaid'' tt. 171-7</ref>
 
Cynhaliwyd cyngres Ban-geltaidd yn [[Sant-Brieg]] yn [[1867]], wedi ei threfnu gan [[Charles de Gaulle (llenor)|Charles de Gaulle]], ewythr y cadfridog adnabyddus. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf [[Y Gyngres Geltaidd]] yn [[1917]], a sefydlwyd mudiad mwy gwleidyddol, yr [[Undeb Celtaidd]], yn [[1961]]. Y gwledydd Celtaidd yn ôl y ddau sefydliad yma yw [[yr Alban]], [[Cernyw]], [[Cymru]], [[Iwerddon]], [[Ynys Manaw]], a [[Llydaw]].<ref>[http://www.celticleague.org/ Gwefan yr Undeb Celtaidd]</ref> Rhain yw'r gwledydd lle siaredir iaith Geltaidd neu lle siaredid iaith Geltaidd hyd yn gymharol ddiweddar. Mae nifer o daleithiau neu ardaloedd mewn gwledydd eraill hefyd yn hawlio etifeddiaeth Geltaidd, yn arbennig [[Galicia]] yn [[Sbaen]], ac mae [[Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient]] yn cydnabod Galicia ac [[Asturias]] fel gwledydd Celtaidd.<ref>[http://www.festival-interceltique.com/?nav=E Safle We Gŵyl Ryng-Geltaidd Lorient]</ref>