Hanes Ynys Manaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 9 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q459160 (translate me)
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif13g, 10fed ganrif10g using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Castle Rushen.jpg|bawd|250px|Castell Rushen yn [[Castletown]]. Adeiladwyd y castell gan Magnus III, brenin Norwy.]]
 
Mae '''hanes Ynys Manaw''' yn hanes dylanwadau o'r gwledydd o'i chwmpas, yn enwedig [[yr Alban]] a [[Lloegr]], ac hefyd ddylanwadau [[Llychlyn]]naidd cryf. Daeth [[Ynys Manaw]] yn ynys tua 8500 o flynyddoedd yn ôl wrth i lefel y môr godi. Hyd hynny roedd cysyslltiad tir gydag ardal [[Cumbria]]. Ychydig o gofnodion hanesyddol sydd ar gael o'r cyfnodau cynnar pan ymddengys bod poblogaeth yn siarad iaith Frythonig yn byw yno. Cofnodir i [[Edwin, brenin Northumbria]] ymosod ar yr ynys yn [[616]]. O gwmpas y [[10fed ganrif10g]] ymsefydlodd gwladychwyr o [[Iwerddon]] a datblygodd [[Manaweg]], sy'n iaith Oidelig tebyg i [[Gwyddeleg|Wyddeleg]]. Yn ôl traddodiad, daeth [[Sant Maughold]] (Maccul) o Iwerddon a Christionogaeth i'r ynys. Credir fod enw'r ynys yn dod o enw duw môr [[y Celtiaid]], [[Manannán mac Lir]].
 
Yn ôl y traddodiad barddol, daeth [[Merfyn Frych]], a ddaeth yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] tua [[825]], o "Fanaw", ond mae'n ansicr a yw hyn yn cyfeirio at Ynys Manaw neu at hen deyrnas [[Manaw Gododdin]] (yn Yr Alban heddiw). Ar groes ar Ynys Manaw mae arysgrif ''Crux Guriat''. Credir fod y groes yn dyddio o'r wythfed neu'r nawfed ganrif, felly mae'n bosibl mai tad Merfyn oedd y "Guriat" yma.
Llinell 7:
Dechreuodd y Llychlynwyr ymosod ar yr ynys rhwng [[800]] ac [[815]], ac o tua [[850]] ymlaen daeth dan reolaeth brenhinoedd Danaidd [[Dulyn]]. O tua 990 daeth yn eiddo Ieirll Orkney. Cynhyrchwyd darnau arian ar yr yns rhwng tua 1025 a tua 1065. Yn [[1079]] goresgynwyd yr ynys gan [[Godred Crovan]] oedd hefyd wedi goresgyn rhannau o Iwerddon, a sefydlodd linach o frenhinoedd gyda'r teitl ''[[Teyrnas Manaw a'r Ynysoedd|Rex Manniae et Insularum]]''. Roedd mab Godred, [[Olaf I, brenin Ynys Manaw|Olaf]], yn frenin nerthol a llwyddodd i gadarnhau annibynniaeth yr ynys.
 
Yn ystod y cyfnod yma roedd Manaw, mewn theori o leiaf, yn rhan o deyrnas brenin [[Norwy]]. Gorfodwyd y brenin [[Ragnald, brenin Ynys Manaw|Ragnald]] i dalu gwrogaeth i [[John, brenin Lloegr]] yn nechrau'r [[13eg ganrif13g]], ond dylanwad [[yr Alban]] oedd gryfaf yn y cyfnod yma.
Yn [[1261]], gyrrodd [[Alexander III, brenin yr Alban]] lysgennad i Norwy i geisio perswadio brenin Norwy i ollwng ei hawl ar yr ynys, a phan wrthododd ymladdwyd [[Brwydr Largs]] heb ganlyniad pendant. Bu farw Haakon Haakonsson brenin Norwy y flwyddyn wedyn, a chipiodd Alexander yr ynys. Nid oedd gafael yr Alban ar yr ynys yn ddiogel hyd [[1275]] pan drechwyd y Manawiaid ym Mrwydr Ronaldsway, ger [[Castletown]].