Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gâl"

Lleihawyd o 19 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 3edd ganrif3g, 3edd ganrif CC3 CC using AWB
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 3edd ganrif3g, 3edd ganrif CC3 CC using AWB)
 
Roedd y Celtiaid yn Gallia Cisalpina wedi cael eu goresgyn gan y
Rhufeiniaid tua'r [[3edd ganrif3 CC]]/[[ail ganrif CC]]. Yn [[89 CC]] a [[49 CC]] cawsant ddinesyddiaeth Rufeinig. Ar ddechrau'r ail ganrif CC goresgynodd y Rhufeiniaid ran o dde Ffrainc a sefydlu talaith [[Gallia Narbonensis]] yno. Ond doedden nhw ddim yn fodlon ar hynny. Yn [[58 CC|58]]-[[51 CC]] arweiniodd [[Iŵl Cesar]] ei [[Lleng Rufeinig|llengoedd]] i weddill Gâl a'i chwncweru ar  ôl nifer o frwydrau
caled yn erbyn y Galiaid. Cafodd y wlad ei rhannu'n dair talaith
gan yr ymerodr [[Augustus]] yn [[27 CC]]: [[Gallia Belgica]] yn y gogledd-ddwyrain, [[Gallia Aquitania]] yn y de-orllewin a [[Gallia Lugdunensis]] yn y canol. Sefydlwyd dinas Lugdunum ([[Lyons]]) fel [[coloni]] yng nghanol y "Tair Gâl" (''Tres Galliae'') hyn yn [[43 CC]]. Gwasanethai Lugdunum fel canolfan weinyddiaeth i'r llwythau hefyd, ac roedd y [[Concilium Galliarum]] ("Cyngor y Galiaid") yn cwrdd yn y ddinas newydd i setlo anghydfod.
 
Blodeuai diwylliant arbennig yn yr Âl Rufeinig, a gyfunai elfennau Celtaidd a Rhufeinig; fe'i gelwir weithiau'n ddiwylliant Galo-Rufeinig. Yn ystod yr [[ail ganrif]] dechreuodd [[Cristnogaeth]] gyrraedd Gâl a chafodd hyn yn ei thro effaith sylweddol ar iaith a diwylliant yr ardal. Yn y [[3edd ganrif3g]] cafwyd nifer o gyrchoedd ar Âl gan lwythau [[Germaniaid|Germanaidd]] a phan ymadawodd y [[Rhestr llengoedd Rhufeinig|llengoedd Rhufeinig]] olaf yn y [[5fed ganrif]] goresgynwyd y wlad i gyd gan y Germaniaid a chafodd ei rhannu rhwng y prif lwythau, sef y [[Ffranciaid]], y [[Alemanni]], y [[Bwrgwyniaid]] a'r [[Visigothiaid]].
 
==Gweler hefyd==
418,588

golygiad