Mwnt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Breckenheimer (sgwrs | cyfraniadau)
B iaith
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif18g, 14eg ganrif14g, 12fed ganrif12g using AWB
Llinell 22:
Mae'r '''Mwnt''' (yn fwy ffurfiol '''Y Mwnt''') yn gymuned fechan a phlwyf ar arfordir de [[Ceredigion]], rhwng [[Aberteifi]] ac [[Aberporth]].
 
Yn y [[12fed ganrif12g]] ceisiodd y [[Ffleminiaid]] lanio yno, ond methiant fu eu hymgais i oresgyn Ceredigion. Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif dywedid fod esgyrn y goresgynwyr i'w gweld o hyd dan y tywod ar dywydd garw. Hyd tua diwedd y [[18fed ganrif18g]] arferai trigolion y Mwnt ddathlu'r Sul cyntaf ar ôl [[Calan Ionawr]] trwy frwydro yn erbyn eu gilydd, efallai mewn coffadwriaeth o'r fuddugoliaeth ar y Ffleminiaid: Y Sul Coch y gelwid y Sul hwnnw.
 
Nodweddir Mwnt gan ei thirwedd drawiadol, yn arbennig y traeth cysgodlyd a'r hen [[eglwys]] gerllaw. Enw'r eglwys fechan wyngalchog yw Eglwys y Grog. Dyma'r eglwys hynaf yng Ngheredigion o ran ei hadeiladwaith, sy'n dyddio o'r [[14eg ganrif14g]] fel y saif hi heddiw. Mae'r gwaith pren heb yr un hoelen ac mae'r muriau oddi mewn yn wyngalchog hefyd. Yn anffodus nid yw'r Grog (sgrîn) ganoloesol yno erbyn heddiw. Mae Ffynnon y Grog gerllaw yr eglwys.
 
Mae'r eglwys a'r traeth fel ei gilydd yn cael eu gwarchod gan yr [[Ymddiriedolaeth Genedlaethol]]. Ceir cyfoeth o fywyd gwyllt yn yr ardal ac mae'n gartref yn yr haf i nifer o [[dolffin|ddolffinau]], [[morlo]]i a [[llamhidydd]]ion.