Cristnogaeth yng Nghymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Yr Oesoedd Canol: Symud o Eglwysi yng Nghymru
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 14eg ganrif14g, 3edd ganrif3g using AWB
Llinell 3:
==Yr Eglwys Fore ac Oes y Seintiau==
===Dechreuadau===
Daeth Cristnogaeth i [[Ynys Brydain]] yn y cyfnod Rhufeinig. [[Celtiaid]] (y [[Brythoniaid]]) oedd y trigolion brodorol, ond ymsefydlodd pobl o rannau eraill o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]] yn eu mysg. Mae'n debyg mae yn y trefi a dinasoedd Rhufeinig y cafwyd y Cristnogion cyntaf. Ar ddechrau'r [[3edd ganrif3g]] ceir tystiolaeth fod cenhadon Cristnogol yn weithgar yn y Brydain Rufeinig. Merthyrwyd tri ohonynt tua ganol y ganrif, sef y seintiau [[Aaron]] ac [[Iwliws]] (a ferthyrwyd yng [[Caerleon|Nghaerleon]] ac [[Alban (sant)|Alban]]. Cofnodir presenoldeb tri [[esgob]] o Brydain yng [[Cyngor Arles|Nghyngor Arles]] yn [[314]]. [[Lladin]] oedd iaith yr eglwys gynnar ac ymddengys iddi gymryd amser i ymwreiddio ym mywyd y bobloedd [[Brythoneg]] eu hiaith. Ni ddiflanodd [[amldduwiaeth]] y Brythoniaid dros nos ac am gyfnod hir mae'n rhaid fod y ddwy grefydd wedi bodoli ochr yn ochr. Un arall o'r Cristnogion cynnar hyn oedd [[Pelagius]], a gollfarnwyd yn ddiweddarach fel [[heretig]]; mae lle i gredu ei fod yn Frython.
 
Yn yr Oesoedd Canol credid mai [[Lucius]] a ddaeth â Christnogaeth i Ynys Brydain yn yr 2ail ganrif a'i fod wedi sefydlu pump talaith eglwysig gyda Chymru'n [[archesgobaeth]] yn cael ei rheoli gan esgob yng Nghaerleon, ond gwyddys erbyn heddiw nad oes sail i'r hanes.
Llinell 25:
 
;Wedi'r Goncwest
Yn rhyfel 1282-83 difrodwyd llawer o eiddo'r eglwys ac yn 1285 talodd [[Edward I, brenin Lloegr]] oddeutu £2,300 i 107 o eglwysi i'w digolledu. Gwnaeth yr archesgob Pecham archwiliad manwl o eglwysi Cymru yn 1284. Bu'r blynyddoedd dilynol yn oes aur o ran adeiladau a godwyd yn arddull Addurnedig y cyfnod, a llenyddiaeth grefyddol e.e. [[Llyfr Gwyn Rhydderch]]. erbyn 1300 roedd Cymru wedi'i rhannu'n [[plwyf|blwyfi]]. Ond er hyn, erbyn dechrau'r [[14eg ganrif14g]] roedd yr Eglwys Gymreig fwy neu lai o dan awdurdod coron Lloegr. O 1294, trethwyd yr eglwys yng Nghymru yn drwm ac yn greulon.
 
Erbyn 1380 dim ond 71 o fynachod oedd ar ôl yng Nghymru a dau o'u beirniaid mwyaf llym oedd [[ Dafydd ap Gwilym]] c [[Iolo Goch]], ac roeddent ill dau'n gwbwl wrth-glerigaidd. Cymerwyd drosodd nifer o eglwysi Cymreig gan fynachlogydd Seisnig hefyd. Ond un o amddiffynwyr mwya'r Cymry oedd y Pab (o leiaf hyd at 1350) a pharchai'r Cymry Cymraeg gan fynnu y dylai pob bugail gwerth ei halen siarad iaith ei braidd!