Eglwys Bresbyteraidd Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 4 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1422268 (translate me)
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 18fed ganrif18g using AWB
Llinell 3:
Mae '''Eglwys Bresbyteraidd Cymru''', a elwir hefyd y '''Methodistiaid Calfinaidd''' neu'r '''Trefnyddion Calfinaidd''', yn enwad [[Anghydffurfiaeth|anghydffurfiol]] Cymreig.
 
Datblygodd yr enwad allan o'r [[Diwygiad Methodistaidd]] yn y [[18fed ganrif18g]] dan arweiniad [[Howel Harris]], [[Daniel Rowland]] a [[William Williams, Pantycelyn]], ac yn ddiweddarach [[Thomas Charles]]. Yn y cyfnod yma roedd yn fudiad o fewn yr eglwys Anglicanaidd, a dim ond yn [[1811]] y dechreuodd ordeinio gweinidogion ei hun. Cwblhawyd y broses o ymwahanu pan gyhoeddodd Gyffes Ffydd yn [[1823]]. Tyfodd yr enwad yn gyflym yn hanner cyntaf y [[19eg ganrif19g]], dan arweiniad gwŷr fel [[Thomas Jones (Dinbych)]] ([[1756]] - [[1820]]), [[John Elias]] (1774 - 1841) a [[John Jones, Talysarn]], i fod y mwyaf o enwadau anghydffurfiol Cymru. Roedd yn wahanol i'r enwad arall anghydffurfiol a arddelai'r enw 'Methodistiaid', sef y [[Methodistiaid Wesleaidd]] a ddilynai [[John Wesley]] yn Lloegr ac a ymledodd yng Nghymru yn ddiweddarach. [[Calfiniaieth]] a arddelai'r Methodistiaid yng Nghymru a Chalfinaidd oedd diwynyddiaeth yr enwad o'r dechrau. Bu tŵf pellach yn dilyn [[Diwygiad 1904-1905]], dan arweiniad [[Evan Roberts]], ond ers hynny mae nifer yr aelodau wedi gostwng yn sylweddol.
 
Ar [[31 Rhagfyr]] [[2005]] roedd gan yr enwad 33,363 o aelodau gyda 69 o weinidogion llawn amser ac 20 o weinidogion rhan amser. Llywydd presennol y Gymanfa Gyffredinol (2012-13) yw'r Parch Dafydd Andrew Jones, Caerdydd. Yr Ysgrifennydd Cyffredinol yw'r Parch. Meirion Morris.