Cernyweg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 83.226.234.90 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan Dafyddt.
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llinell 27:
[[Delwedd:Kornisch.png|de|bawd|260px|Symudiad terfyn ieithyddol Cernyweg 1300-1750]]
 
Astudiwyd Cernyweg Modern Cynnar yn y [[1700au]] gan yr ieithydd o Gymro, [[Edward Lhuyd]]. Erbyn hyn, roedd yr iaith yn diflannu'n gyflym. Mae chwedl yn dweud mai'r person olaf i siarad yr iaith fel mamiaith oedd [[Dolly Pentreath]], a fu farw ym [[1777]]. Ond mae tystiolaeth bod rhai siaradwyr brodorol wedi parhau tan y [[19eg ganrif19g]]. Er iddi ddweud, yn ôl y chwedl, "My ny vydn kewsel Sowsnek!" - dwi ddim isio siarad [[Saesneg]]! - roedd hi yn gallu ychydig o Saesneg o leiaf. Mae'n bosibl mai'r person olaf i siarad Cernyweg yn unig oedd Chesten Marchant, a fu farw ym [[1676]]. Canrif yn ddiweddarach ([[1776]]), ysgrifennodd William Bodinar lythyr byr dwyieithog i'r hynafiaethydd Daines Barrington, y darn olaf o Gernyweg draddodiadol rugl a wyddys, yn ôl pob tebyg. Dyma ei ddiweddglo, ''Na ges moye vel pager po pemp en dreau nye, ell clapia Cornoack leben -- poble coath, pager egance blouth; Cornoack ewe oll naceaves gen poble younk'' (Does dim mwy na phedwar neu bump yn ein tre ni, sy'n gallu sgwrsio Cernyweg ar hyn o bryd—hen bobl, pedwar ugain blwydd; Cernyweg yw angofiedig yn hollol wrth y bobl ieuanc).
 
== Adfywiad ==
[[FileDelwedd:Penzance 43133.jpg|thumbbawd|260px|Arwydd Cernyweg - 'Croeso i Bensans', yng [[Gorsaf reilffordd Penzance|Ngorsaf reilffordd Penzance]].]]
 
Ar ddechrau'r [[20fed ganrif|ugeinfed ganrif]], gwelwyd adfywiad yn yr iaith. Erbyn y [[1920au|dauddegau]], sefydlwyd ''[[Gorsedh Kernow]]'' - Gorsedd Cernyw, i sicrhau fod yr iaith yn parhau, yn debyg i fudiad yr [[Eisteddfod]] yng Nghymru. Ym [[1967]], sefydlwyd [[Kesva an Taves Kernewek]] - Bwrdd yr Iaith Gernyweg (mudiad gwirfoddol). Pwrpas y bwrdd oedd cynorthwyo pobl Cernyw, ac eraill, i ddysgu a siarad y iaith. Ym [[1979]] sefydlwyd [[Kowethas an Yeth Kernewek]] (''Cymdeithas yr Iaith Gernyweg'') i gynrychioli y rhai sy'n siarad a dysgu yr iaith, i gyd a'i hybu mewn sefyllfaoedd pob dydd. Mae'r Gowethas yn gymdeithas agor i bawb o blaid y Gernyweg, a'i haelodau yn ffurfio etholaeth am y Gesva (Bwrdd yr Iaith).