Hanes Cernyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Nwbeeson (sgwrs | cyfraniadau)
.gif --> .svg
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g (2), 18fed ganrif18g (2), 14eg ganrif14g using AWB
Llinell 7:
Erbyn yr 8fed ganrif roedd Dyfnaint wedi ei goresgyn gan yr [[Eingl-Sacsoniaid]]. Enillodd y Brythoniaid frwydr yn "Hehil" yn [[721]], ond yn [[838]] gorchfygwyd cynghrarir o Frythoniaid a Daniaid gan Egbert, brenin [[Wessex]]. Cofnodwyd yn yr ''[[Annales Cambriae]]'' am [[875]] fod Dungarth, brenin Cerniu ("id est Cornubiae") wedi boddi. Yn [[936]], nodir i [[Athelstan]] osod [[Afon Tamar]] fel ffin orllewinol Wessex.
 
Erbyn [[1066]] ystyrid Cernyw yn rhan o Deyrnas Lloegr, ond roedd ganddi rywfaint o annibynniaeth yn parhau fel is-deyrnas. Diorseddwyd brenin olaf Cernyw, [[Cadog, brenin Cernyw|Cadog]], gan y Normaniaid. Datblygodd llenyddiaeth boblogaidd Gernyweg yn y [[14eg ganrif14g]]. Cyn cyfnod y Tuduriaid byddid yn aml yn nodi bod cyfreithiau'n weithredol ''in Anglia et Cornubia''; ond o gyfnod y Tuduriaid ymlaen cymerwyd fod "Anglia" yn cynnwys Cernyw.
 
Bu gwrthryfel yn [[1497]], gan ddechrau ymhlith y mwynwyr tun, oedd yn gwrthwynebu cynnydd yn y trethi. Gorymdeithiodd y gwrthryfelwyr tua [[Llundain]], ond gorchfygwyd hwy ym mrwydr Pont Deptford. Bu gwrthryfel arall yn erbyn y Llyfr Gweddi Protestannaidd yn [[1549]]. Heblaw fod mwyafrif y Cernywiaid yn Gatholigion ar y pryd, roedd y ''[[Llyfr Gweddi Gyffredin]]'' newydd yn [[Saesneg]], iaith nad oedd mwyafrif y Cernywiaid yn ei deall. Dywedir i ugain y cant o boblogaeth Cernyw gael ei lladd yn y gwrthryfel yma, un o'r ffactorau a arweiniodd at ddirywiad yn sefyllfa'r iaith. Bu farw [[Dolly Pentreath]], siaradwr olaf y Gernyweg yn ôl y chwedl yn [[1777]], ond mae tystiolaeth i siaradwyr eraill fyw tan ddechrau'r [[19eg ganrif19g]].
[[Delwedd:Baner Meibion Kerow.png|bawd|chwith|Baner Mebyon Kernow]]
 
Yn [[1755]] tarawyd arfordir Cernyw gan [[tsunami]] a achoswyd gan ddaeargryn mawr [[Lisbon]]. Parhaodd mwynfeydd tun Cernyw yn bwysif yn y [[18fed ganrif18g]], ond erbyn ail hanner y [[19eg ganrif19g]] roedd y tun yn dechrau darfod, ac ymfudodd llawer o Gernywiaid. Tua diwedd y [[18fed ganrif18g]] tyfodd [[Methodistiaeth]] yn gyflym yng Nghernyw yn dilyn ymweliadau gan [[John Wesley|John]] a [[Charles Wesley]].
 
Ffurfiwyd plaid genedlaethol [[Mebyon Kernow]] yn [[1951]] i geisio ennill hunanlywodraeth. Nid yw'r blaid wedi llwyddo i ennill sedd yn Nhy'r Cyffredin hyd yma.