Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Hanes Iwerddon"

Lleihawyd o 17 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 5ed ganrif5g using AWB
B (Bot: Migrating 33 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q205157 (translate me))
B (canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 5ed ganrif5g using AWB)
==Y cyfnod cynnar==
 
Credir i'r cenhadon Cristionogol cyntaf gyrraedd yr ynys tua dechrau neu ganol y [[5ed ganrif5g]], gyda [[Sant Padrig]] yn arbennig o amlwg. Erbyn tua [[600]] roedd yr hen grefydd wedi diflannu i bob pwrpas. O tua [[800]] bu llawer o ymosodiadau gan y [[Llychlynwyr]], a bu difrod fawr ar y mynachlogydd o ganlyniad. Ymsefydlodd rhai o'r Llychlynwyr ar arfordir dwyreiniol Iwerddon a thyfodd [[Teyrnas Dulyn]] yn ganolfan bwysig yn y byd Llychlynaidd. Roedd yna gysylltiadau cryf rhwng "Gwŷr Dulyn" a [[Teyrnas Gwynedd|brenhinoedd Gwynedd]] erbyn yr [[Oesoedd Canol]]. Ganwyd [[Gruffudd ap Cynan]] yn Nulyn a'i fagu yn [[Sord Cholmcille]] (Swords) gerllaw. Yr oedd yn fab i [[Cynan ap Iago]] a [[Ragnell]] ferch [[Olaf Arnaid]], brenin Daniaid Dulyn, ac yn ystod ei ymdrechion i ennill rheolaeth dros Wynedd cafodd Gruffudd lawer o gymorth o Iwerddon.
 
Roedd Iwerddon wedi ei rhannu yn nifer o deyrnasoedd annibynnol; a symbolaidd oedd swyddogaeth [[Uchel Frenin Iwerddon]] yn bennaf. Ceisiodd [[Brian Boru]] (''Brian mac Cennétig'') newid hyn, a gwneud ei hun yn wir reolwr Iwerddon. Ymladdwyd [[Brwydr Clontarf]] ar [[Dydd Gwener y Groglith|Ddydd Gwener y Groglith]] ([[23 Ebrill]]), [[1014]], rhwng Brian Boru a byddin Brenin [[Leinster]], [[Máel Mórda mac Murchada]], oedd yn cynnwys llawer o Lychlynwyr [[Dulyn]] dan arweiniad cefnder Máel Mórda , [[Sigtrygg Farf Sidan]] (un o hynafiaid Gruffudd ap Cynan). Bu byddin Brian Boru yn fuddugol, ond lladdwyd ef ei hun gan nifer fychan o Lychlynwyr a ddaeth ar draws ei babell yn ddamweiniol wrth ffoi o faes y gad. O ganlyniad, ymrannodd Iwerddon yn nifer o deyrnasoedd annibynnol eto.
Yn [[1800]], pasiwyd [[Deddf Uno 1800]], yn weithredol o [[1 Ionawr]] [[1801]], oedd yn gwneud i ffwrdd a senedd Iwerddon ac ymgorffori'r ynys yn y [[Deyrnas Unedig]]. Yn 1823, dechreuodd cyfreithiwr Catholig, [[Daniel O'Connell]], ymgyrch i sicrhau'r bleidlaid i Gatholigion, a llwyddwyd i sicrhau hyn yn 1829. Yn y cyfnod 1845-1849 effeithiwyd ar yr ynys gan "[[Newyn Mawr Iwerddon|Y Newyn Mawr]]" ([[Gwyddeleg]]: ''An Gorta Mór''). Credir i tua miliwn o bobl farw o newyn a gorfodwyd i nifer llawer mwy ymfudo o Iwerddon i geisio bywoliaeth. Lleihaodd poblogaeth Iwerddon o 8 miliwn cyn y newyn i 4.4 miliwn yn [[1911]]. Yn rhannol oherwydd hyn, ac hefyd oherwydd effaith ysgolion Saesneg eu hiaith, dechreuodd y ganran o'r boblogaeth a fedrai'r iaith Wyddeleg leihau, a diflannodd yn hollol o rai ardaloedd.
 
[[Image:Easter Proclamation of 1916.png|chwith|thumbbawd|Datganiad Annibyniaeth Iwerddon, a gyhoeddwyd gan arweinwyr Gwrthryfel y Pasg]]
 
Parhaodd cenedlaetholdeb yn gryf, a bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod hanner cyntaf y [[19eg ganrif19g]]. Bu hefyd ymgyrchoedd am hunanlywodraeth trwy ddulliau seneddol, ac yn y 1870au daeth hyn yn bwnc llosg trwy ymdrechion [[Charles Stewart Parnell]]. Cyflwynodd y prif weinidog Prydeinig [[William Ewart Gladstone]] ddau fesur i roi hunanlywodraeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, ond gorchfygwyd hwy yn Nhy'r Cyffredin. Yn [[1910]] roedd y [[Plaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] dan [[John Redmond]] mewn sefyllfa gref yn Nhy'r Cyffredin, gyda'r Rhyddfrydwyr yn dibynnu ar eu cefnogaeth i barhau mewn grym. Yn 1912 cyflwynwyd mesur arall i roi hunanlywodraeth i Iwerddon o fewn y Deyrnas Gyfunol, ond gwrthwynebwyd hyn yn gryf gan y Protestaniaid yn y gogledd-ddwyrain. Rhoddodd dechreuad y [[Rhyfel Byd Cyntaf]] yn [[1914]] derfyn ar y mesur am y tro.
 
==Y frwydr am annibyniaeth a rhannu'r ynys==
449,732

golygiad