Hanes Llydaw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 15 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1638627 (translate me)
B →‎Yr Ugeinfed Ganrif hyd y presennol: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g, 19eg ganrif19g using AWB
Llinell 13:
==Yr Ugeinfed Ganrif hyd y presennol==
 
Datblygodd y [[Cenedlaetholdeb Llydewig|mudiad cenedlaethol Llydewig]] modern tua diwedd y [[19eg ganrif19g]] a dechrau'r [[20fed ganrif20g]]. Pan orchfygwyd Ffrainc gan [[Yr Almaen]] yn yr [[Ail Ryfel Byd]], bu hollt yn y mudiad cenedlaethol. Roedd rhai cenedlaetholwyr Llydewig yn amlwg yn y gwrthwynebiad arfog i'r Almaenwyr, tra dewisodd eraill megis [[Roparz Hemon]] gydweithio gyda'r Almaenwyr yn y gobaith o ennill annibyniaeth i Lydaw. Yn Rhagfyr [[1943]] llofruddiwyd [[Yann-Vari Perrot|yr Abbé Perrot]], cenedlaetholwr Llydewig amlwg, gan aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, gan haeru ei fod yn cydweithio a'r Almaenwyr. Bu raid i eraill, megis Roparz Hemon, ffoi i Gymru ac [[Iwerddon]] ar ddiwedd y rhyfel, a bu adwaith cryf ar ran llywodraeth Ffrainc yn erbyn yr iaith a'r diwylliant Llydewig.
 
Pan rannwyd Ffrainc yn ranbarthau gweinyddol, nid oedd rhanbarth ''[[Bretagne]]'' ond yn cynnwys pedwar allan o'r pump ''departement'' oedd yn draddodiadol yn rhan o Lydaw. Ni chynhwyswyd [[Loire-Atlantique]], sy'n cynnwys [[Nantes]], un o ddwy brifddinas draddodiadol Llydaw. Bu dirywiad mawr yn sefyllfa'r iaith Lydaweg ers [[1945]]; mewn llawer o ardaloedd lle siaredid yr iaith, magwyd plant a aned ers y cyfnod yma yn uniaith Ffrangeg. Ers y 1970au bu cynnydd mewn diddordeb yn iaith a diwylliant Llydaw, yn arbennig mewn cerddoriaeth, lle daeth [[Alan Stivell]] yn adnabyddus. Mae mudiad [[Diwan]] wedi sefydlu ysgolion Llydaweg i geisio achub yr iaith.