Cyfraith yr Alban: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Petroc2 (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 11eg ganrif11g using AWB
Llinell 2:
'''Cyfraith yr Alban''' yw cyfundrefn gyfreithiol yr Alban. Mae'n gyfundrefn gyfreithiol gymysg, sy'n cynnwys cyfraith sifil ac elfennau o gyfraith gyffredin, sy'n olrhain ei gwreiddiau i nifer o ffynonellau hanesyddol.<ref>Palmer, p. 201</ref><ref>Tetley, Part I</ref> Ynghyd â [[Cyfraith Cymru a Lloegr|chyfraith Cymru a Lloegr]] a [[Cyfraith Gogledd Iwerddon|chyfraith Gogledd Iwerddon]], mae'n un o dair cyfundrefn cyfreithiol y Deyrnas Unedig.<ref name="Stair juris">Stair, General Legal Concepts (Reissue), para. 4 (Online) Adalwyd 2011-11-29</ref>
 
Mae'n rhannu elfennau gyda'r ddwy gyfundrefn arall, ond mae ganddi hefyd ei ffynonellau unigryw ei hun. Dechreuwyd Gyfraith yr Alban cyn yr [[11eg ganrif11g]], yn cynnwys elfennau cyfreithiol y [[Pictiaid]], [[Gaeliaid]], [[Brythoniaid]], [[Eingl-Sacsoniaid]] a'r [[Llychlynwyr]]. Wrth sefydlu ffiniau [[Teyrnas yr Alban]] sefydlwyd gwreiddiau Cyfraith yr Alban, a gafodd ei dylanwadu hefyd gan draddodiadau cyfandirol e.e. cyfeirir at gyfraith [[Rhufeiniaid|Rufeinig]], mewn ffurf wedi'i addasu, lle nad oedd gan yr Albanwyr frodorol reol i ddatrys anghydfod.
 
Mae Cyfraith yr Alban yn cydnabod pedair ffynhonnell o gyfraith: deddfwriaeth, cynsail cyfreithiol, ysgrifau academaidd penodol ac arferiad. Gall deddfwriaeth sy'n effeithio ar yr Alban gael ei basio gan Senedd yr Alban, Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd Ewrop, a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd. Mae rhywfaint o ddeddfwriaeth a basiwyd cyn-1707 gan hen Senedd yr Alban yn dal i fod yn ddilys.