Ucheldiroedd yr Alban: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gh Ross, Skye a Lochaber (etholaeth seneddol y DU)
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 18fed ganrif18g using AWB
Llinell 2:
Mae'r term daearyddol '''Ucheldiroedd yr Alban''' ([[Gaeleg yr Alban|Gaeleg]]: '''A' Ghàidhealtachd''' 'Gwlad y Gael', [[Saesneg]] 'Highlands') yn cael ei arfer i ddisgrifio ardal fynyddig gogledd [[yr Alban]] sy'n gorwedd i'r gogledd ac i'r gorllewin o Rwyg Ffin yr Ucheldiroedd. Mae'r [[Glen Mawr]] yn gwahanu [[Mynyddoedd Grampian]] i'r de-ddwyrain oddi ar [[Ucheldiroedd Gogledd-orllewinol yr Alban]].
 
Ychydig iawn o bobl sy'n byw yno gan fod tir cynhyrchiol yn brin a dominyddir y tirlun gan y cadwyni mynydd niferus. Mae'r dwysedd poblogaeth yn is ar gyfartaledd nag yn [[Sweden]], [[Norwy]], [[Papua Gini Newydd]] neu'r [[Ariannin]]. Ar un adeg, roedd y boblogaeth gryn dipyn yn fwy nag yw heddiw. Yn ystod ail hanner y [[18fed ganrif18g]] a hanner cyntaf y [[19eg ganrif19g]], diboblogwyd yr Ucheldiroedd i raddau helaeth gan broses [[Clirio'r Ucheldiroedd]]. Gorfodwyd tenantiaid i ymadael a'u tyddynod, er mwyn gwnwud lle i wartheg a defaid.
 
Mae'r canolfannau gweinyddol yn cynnwys Inverness. [[Cyngor yr Ucheldiroedd]] yw'r corff gweinyddol ar gyfer tua 40% o'r ardal; rhennir y gweddill rhwng ardaloedd cyngor [[Aberdeenshire]], [[Angus]], [[Argyll a Bute]], [[Moray]], [[Perth a Kinross]], a [[Stirling]]. Yn ogystal cyfrifir rhan ogleddol [[Ynys Arran]] fel rhan o'r Ucheldiroedd yn ddaearyddol, er ei bod yn cael ei gweinyddu gan gyngor [[Gogledd Swydd Ayr]].