420,642
golygiad
B (canrifoedd a Delweddau, replaced: 15fed ganrif → 15g (3), 14eg ganrif → 14g, 13eg ganrif → 13g using AWB) |
|||
[[Delwedd:LlywelynFawr.jpg|150px|bawd|Llywelyn Fawr]]Ar ddiwedd y [[1060au]], daeth y [[Normaniaid]] i Gymru, gan newid gwleidyddiaeth y wlad. Sefydlwyd arglwyddiaethau Normanaidd [[Y Mers]], rhwng Cymru a Lloegr. Bu bron iawn i Gymru gyfan gael ei goresgyn ganddynt ond llwyddodd [[Gruffudd ap Cynan]] ac [[Owain Gwynedd]] i'w hatal, er iddynt ymsefydlu mewn rhannau o'r de ac ardaloedd ar y ffin. Llwyddodd [[Llywelyn Fawr]] i osod seiliau Cymru unedig a chyhoeddwyd ei ŵyr [[Llywelyn ap Gruffudd]] yn [[Tywysog Cymru|Dywysog Cymru]]. Ond parhaodd brenhinoedd Lloegr i ymosod ar Gymru trwy gydol y cyfnod. Ym [[1282]] lladdwyd [[Llywelyn Ein Llyw Olaf]], sef tywysog olaf annibynnol Cymru, mewn ysgarmes ger [[Cilmeri]] a chipiodd [[Edward I o Loegr]] ei deyrnas. Adeiladodd Edward res o gestyll mawr i gadw'r Cymry dan reolaeth - [[Castell Rhuddlan|Rhuddlan]], [[Castell Conwy|Conwy]], [[Castell Caernarfon|Caernarfon]], [[Castell Biwmares|Biwmares]], a [[Castell Harlech|Harlech]] ydyw'r cestyll enwocaf.
Cafwyd cyfres o wrthryfeloedd yn erbyn llywodraeth y Saeson o ddiwedd y [[
Am ran helaeth o weddill y [[
Am gyfnod gwellodd sefyllfa'r Cymry. Diddymwyd y deddfau penyd a osodwyd ar y Cymry gan y Saeson ar ddechrau'r ganrif. Dan ei fab [[Harri VIII, brenin Lloegr|Harri VIII]] cyflwynwyd y [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Deddfau Uno]] a roddodd Cymru yn yr un system gyfreithiol a gweinyddol â Lloegr ond a waharddodd yr iaith [[Gymraeg]] o fywyd cyhoeddus y wlad. Ar yr un pryd newidiodd Cymru mewn cenhedlaeth neu ddwy o fod yn wlad [[Eglwys Gatholig|Gatholig]] i fod yn wlad [[Protestaniaeth|Brotestanaidd]]. Gwelwyd hefyd adfywiad llenyddol - cyfnod y [[Dadeni Dysg]] a'r [[Beibl]] [[Cymraeg]] - ond troes y bonedd fwyfwy Seisnigaidd a thyfai bwlch rhwng arweinwyr cymdeithas a'r werin. Un canlyniad o hynny oedd y mudiadau crefyddol [[Ymneilltuaeth|ymneilltuol]] a ymledai'n gyflym yn ystod y [[Yr Ail Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|17eg ganrif]] a'r [[Y Ddeunawfed Ganrif yng Nghymru|18fed]]. Dechreuodd Cymru droi'n wlad ddiwydiannol yn ogystal, ac erbyn diwedd y 18fed ganrif a dechrau'r [[Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yng Nghymru|19eg ganrif]] roedd trefi diwydiannol, chwareli a phyllau glo yn nodwedd amlwg ar fywyd y wlad. Tyfodd [[llythrennedd]] ac ymledai'r [[Y Wasg Gymraeg|wasg Gymraeg]]. Cynyddai'r galw am [[Datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru|Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru]] ac am [[hunanlywodraeth]] ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd mudiad [[Cymru Fydd]] ar ei anterth.
[[Delwedd:Llywodraeth.jpg|bawd|chwith|Logo Llywodraeth Cynulliad Cymru]]
Rheolid Cymru yn wreiddiol gan frenhinoedd neu dywysogion Cymreig annibynnol neu led-annibynnol megis [[Rhodri Mawr]], [[Llywelyn Fawr]], a'i ŵyr [[Llywelyn ein Llyw Olaf]], a fabwysiadodd y teitl [[Tywysog Cymru]] ym [[1258]]: cydnabuwyd hyn gan Frenin Lloegr ym [[1277]] yn unol â [[Cytundeb Aberconwy|Chytundeb Aberconwy]]. Ar ôl goresgyn [[Tywysogaeth Cymru|tywysogaeth Llywelyn]] gan [[Edward I o Loegr]], mynegwyd y dyhead am annibyniaeth i Gymru yn y [[
[[Delwedd:Geologic map Wales & SW England CY.svg|bawd|Map o ddaeareg Cymru]]
Roedd gweddill y [[
Yn ystod teyrnasiad [[Harri VIII o Loegr]], ychwanegwyd chwe sir newydd at y rhai a fodolai eisoes ar diriogaeth yr hen Dywysogaeth gan [[Deddf Uno 1536|Ddeddf Uno 1536]] trwy roi statws sirol i arglwyddiaethau [[Sir Benfro|Penfro]] a [[Sir Forgannwg|Morgannwg]] a chreu pedair sir newydd, sef [[Sir Frycheiniog|Brycheiniog]], [[Sir Faesyfed|Maesyfed]], [[Sir Drefaldwyn|Trefaldwyn]] a [[Sir Ddinbych|Dinbych]], a gwnaethpwyd deddfau Lloegr yn ddeddfau gwlad yng Nghymru. Yng [[Gwent|Ngwent]], crëwyd sir newydd [[Sir Fynwy|Mynwy]] yn y de-ddwyrain ond rhoddwyd y sir yn rhan o gylchdaith llysoedd San Steffan ac felly cafwyd yr ymadrodd cyfreithiol "Cymru a Sir Fynwy", anomaledd a barhaodd hyd yr 20fed ganrif er na fu'r sir newydd yn rhan o Loegr fel y cyfryw.
|