Afon Efyrnwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 13eg ganrif13g using AWB
Llinell 5:
Mae Llyn Efyrnwy yn casglu dŵr o sawl ffrwd ar lethrau dwyreiniol [[Y Berwyn]]. Mae Afon Efyrnwy yn llifo o'r gronfa heibio i bentref [[Llanwddyn]]. Ar ôl milltir mae dwy ffrwd yn ymuno â hi o'r dwyrain yn [[Abertridwr (Powys)|Abertridwr]]. Mae'r afon yn llifo yn ei blaen i'r de-ddwyrain heibio i bentrefi bychain [[Pont Llogel]], [[Dolanog]] a [[Pontrobert|Phontrobert]].
 
Daw [[Afon Banwy]] i lawr o fryniau gogledd-orllewin Powys i ymuno ag Afon Efyrnwy tua 3 milltir i'r gogledd o bentref [[Llanfair Caereinion]]. Yno ceir safle [[Mathrafal]], prif lys brenhinoedd [[teyrnas Powys]] hyd ddechrau'r [[13eg ganrif13g]]. Mae'r [[A495]] yn croesi'r afon yno yn y Bont Newydd.
 
Mae Afon Efyrnwy yn newid cwrs i'r gogledd-ddwyrain ac yn llifo heibio i bentref [[Meifod]] yn Nyffryn Meifod. Ger [[Llansantffraid-ym-Mechain]] mae [[Afon Cain]] yn llifo iddi. Am rai milltiroedd mae Afon Efyrnwy yn nodi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn mynd heibo i [[Llanymynech|Lanymynech]], ac yno'n croesi i Swydd Henffordd am hanner milltir olaf ei thaith i ymuno ag Afon Hafren ger Melverley.