Timothy Evans (achos camwedd): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llinell 1:
[[FileDelwedd:Timothyevans.jpg|thumbbawd|Timothy Evans (canol) yn cael ei hebrwng gan yr heddlu o Orsaf Paddington i orsaf heddlu Notting Hill ym mis Rhagfyr 1949]]
Cymro o [[Merthyr Tudful|Ferthyr Tudful]], y cyhuddwyd ef o [[llofruddiaeth|lofruddio]] ei wraig a'i ferch fach oedd '''Timothy John Evans''' ([[20 Tachwedd]] [[1924]] – [[9 Mawrth]] [[1950]]). Roedd y teulu'n byw yn rhif 10 Rillington Place, yn Notting Hill yn [[Llundain]]. Ym mis Ionawr 1950, rhoddwyd ef ar brawf am lofruddio'i ferch yn eu cartref yn niwedd 1949; mewn achos byr, fe'i dyfarnwyd yn euog, a'i ddedfrydu i [[y gosb eithaf|farwolaeth drwy grogi]]. Yn ystod ei brawf, roedd Timothy Evans wedi cyhuddo cymydog i'r teulu, John Christie, o'r llofruddiaethau. Dair blynedd ar ôl dienyddio Timothy Evans, canfuwyd sawl corff yn yr adeilad a sylweddolwyd bod Christie wedi lladd nifer o ferched eraill yno. Cyn iddo yntau gael ei ddienyddio, cyfaddefodd mai ef a laddodd Mrs. Evans. Penderfynodd ymchwiliad swyddogol ym 1966 mai John Christie oedd wedi llofruddio'r ferch fach hefyd, a rhoddwyd pardwn i Timothy Evans.