Ceinewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
lat long
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif18g, 17eg ganrif17g, 16eg ganrif16g, 6ed ganrif6g, [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llinell 19:
|population = 1,082
|population_ref = Cyfrifiad 2011
|static_image = [[FileDelwedd:New Quay 2.jpg|240px]]
|static_image_caption = <small>Yr harbwr</small>
}}
Llinell 27:
==Hanes==
[[Delwedd:Traeth y Cei 1988.jpg|bawd|chwith|250px|Traeth y Cei]]
Bychan iawn oedd y pentref yma cyn i John a Lewis Evans brynnu "Ystâd Neuadd" yn 1791. Dim ond tri thŷ a chwe bwthyn oedd ar yr ystâd a oedd yn 1,200 cyfer. Hen fferm oedd ar y safle ble mae Gwesty Pen Wig heddiw. Felly, mae'n bentref eithaf diweddar – nid oes golwg ohoni ar fapiau tan canol y ddeunawfed ganrif – ond yn fuan dechreuodd dyfu fel pentref pysgota ac yna fel atyniad twristaidd boblogaidd. Does dim dwywaith fod [[smyglo]] hefyd wedi chwarae rhan bwysig o'r economi leol ar yr adeg hon. Tua chanol y 19eg ganrif, daeth Ceinewydd yn borthladd pwysig yn darparu [[calch]] i'r ffermydd lleol. Adeiladwyd sawl llong yno hefyd. Ond gyda dyfodiad y [[rheilffordd]] i'r trefi cyfagos, daeth diwedd i bwysigrwydd y pentref. Bellach, twristiaeth yw diwydiant pennaf Ceinewydd. Mae rhai o'r ffermydd yn dyddio i'r [[16eg ganrif16g]] neu cyn hynny; nodir "Crawgal" a "Chefn Gwyddil" yn arolwg 1587 a "Phen Coed" a "Phenrhiwpistyll" wedi eu codi ar ddechrau'r [[17eg ganrif17g]]. Yn y pentref, yn wreiddiol, Penygeulan (neu Rhes Glanmor, heddiw) oedd y rhes cyntaf o dai, a'r rheiny'n fythynod clom, to gwellt, a Glyngoleu sydd ar y bryn i'r dwyrain o'r môr. Mae'r rhan fwyaf o dai heol Glyngoleu, bellach, wedi'u bwyta gan donnau'r môr. Codwyd Dolau, Wellington Place a'r tai ar waeld Heol yr Eglwys cyn codi'r cei yn 1835.
 
===Eglwysi===
Ceir yma dwy eglwys hynafol: Llanllwchhaearn a Llanina. Cysegrwyd y cyntaf i sant [[Iwerddon|Gwyddelig]] a'r ail i [[Ina]], merch [[Ceredig]], llywodraethwr [[Ceredigion]] yn y [[6ed ganrif6g]]. Mae'r ddwy eglwys yn cael eu nodi ar fapiau mor gynnar â 1644.
 
===Yr harbwr===
Llinell 38:
 
===Smyglwyr===
Roedd Cei Newydd yn hafan i smyglwyr am ran helaeth o'r [[18fed ganrif18g]], a cheir llawer o dystiolaeth fod yr Awdurdodau (y "Refeniw" fel y'i gelwid) yn cadw llygad barcud ar y pentref oherwydd y ''contraband''. Yn ystod Rhyfel Napoleon codwyd treth neu doll ar lawer o nwyddau gan gynnwys [[te]] a oedd a threth o bedwar swllt y pwys. Nwyddau eraill a oedd yn cael eu trethu'n uchel oedd gwin, halen, gwirodydd a thybaco. Roedd y dreth ar halen yn eithriadol o amhoblogaidd gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i biclo neu gadw pysgod yn ffres. Fel y dangosodd yr hanesydd [[Geraint Jenkins]], yn 1704 cyrhaeddodd 3 chwch yn llawn halen (a phedair arall ar y ffordd) ac roedd yno 150 o ddynion gyda 200 o geffylau'n eu gwagio. O'r Iwerddon a Ffrainc y deuai'r contraband, fel rheol.
 
Ceir rhwydwaith o ogofâu ger Heol yr Eglwys (ochor 'Penwaig') a dyllwyd yn benodol i guddio contraband. Efallai ma'r smyglwr enwocaf oedd [[Siôn Cwilt]] a cheir ysgol gynradd gerllaw sy'n dwyn ei enw. Gwisgai got cwilt clytwaith, o liw coch, a storiai newyddau mewn hen fwthyn ar dir sy'n cael ei adnabod heddiw fel [[Banc Siôn Cwilt]] ger [[Synod Inn]]; roedd hefyd yn gyfrifol am eu dosbarthu ledled yr ardal. Ymddengys ei enw fel 'John Qwilt' yng nghofrestr y plwyf yn Eglwys Llanina.