Mynydd Hiraethog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso a Gwybodlenni gwleidyddiaeth (gogwydd) using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g using AWB
Llinell 2:
Mae '''Mynydd Hiraethog''' yn ardal o ucheldir, gan mwyaf rhwng 400m a 500m, rhwng [[Afon Conwy]] ac [[Afon Clwyd]], yn [[Sir Ddinbych]] a [[Conwy (sir)|Sir Conwy]].
 
Mynydd Hiraethog yw'r rhan fwyaf gogleddol o [[Mynyddoedd y Cambria|Fynyddoedd y Cambria]]. Y copa uchaf yw [[Mwdwl-eithin]] (532 medr). Mae'n ardal o rostir, gyda rhai dyffrynnoedd yn torri ar ei draws. Mae rhannau o Fynydd Hiraethog yn cynnwys trwch o rostir grug, sydd yn brin iawn yng Nghymru. Rheolid y rhostir yma ar gyfer saethu [[Grugiar]] yn hanner cyntaf yr [[20fed ganrif20g]], ond bellach mae niferoedd y Grugiar wedi gostwng yn sylweddol yma. Mae rhan ddwyreiniol Mynydd Hiraethog yn cynnwys planhigfeydd coedwigaeth sy’n rhan o Fforest Clocaenog.
 
Mae'r ardal yn adnabyddus am olion cynhanesyddol, yn enwedig o [[Oes yr Efydd]]. Ymddengys fod poblogaeth sylweddol wedi bod yn byw yma yn y cyfnod yma, pan oedd yr hinsawdd ychydig yn gynhesach nag ar hyn o bryd. Ceir nifer o gronfeydd dŵr yma; y rhai mwyaf yw [[Llyn Alwen]], [[Llyn Brenig]] a [[Cronfa Aled Isaf|Chronfa Aled Isaf]].