Iwerddon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →Daearyddiaeth: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|ast}} (2) using AWB |
B canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif → 19g (2), 5ed ganrif → 5g using AWB |
||
Llinell 1:
[[Delwedd:Ireland.A2003004.jpg|bawd|250px|Llun lloeren]]
Mae '''Iwerddon''' ([[Gwyddeleg]]: ''Éire'', a [[Saesneg]]: ''Ireland'') yn un o'r gwledydd Celtaidd yng ngogledd orllewin Ewrop ac yn ynys ym [[Môr Iwerydd]]. Gwyddeleg, iaith Geltaidd yn perthyn i [[Gaeleg|Aeleg]] a [[Manaweg]], ydyw'r iaith gynhenid ond [[Saesneg]] a siaredir gan y mwyafrif ers y [[
==Hanes==
Llinell 8:
Yn y cyfnod cynnar, nid oedd Iwerddon yn ynys, gan fod tir yn ei chysylltu ag Ynys Prydain ac ag [[Ewrop]]. Mae'r olion cyntaf sydd wedi eu darganfod hyd yn hyn yn dyddio i tua 8000 CC.. Mae llawer mwy o olion o'r cyfnod [[Neolithig]], gyda nifer o feddau neu gromlechi enwog o'r cyfnod yma, megis [[Newgrange]].
Credir i'r cenhadon Cristionogol cyntaf gyrraedd yr ynys tua dechrau neu ganol y [[
Yn y cyfnod yma roedd gan Iwerddon ei senedd ei hun, er nad oedd gan y mwyafrif o'r brodorion, oedd yn [[Eglwys Gatholig|Gatholigion]], unrhyw ran mewn llywodraeth. Bu gwrthryfel yn [[1798]] gyda rhywfaint o gymorth o Ffrainc, ond cafodd ei orchfygu a lladdwyd miloedd lawer. Yn [[1801]], gwnaed i ffwrdd a senedd Iwerddon a chafodd yr ynys ei hymgorffori yn y Deyrnas Unedig. Yn 1823, dechreuodd cyfreithiwr Catholig, [[Daniel O'Connell]], ymgyrch i sicrhau'r bleidlaid i Gatholigion, a llwyddwyd i sicrhau hyn yn 1829. Yn y cyfnod 1845-1849 effeithiwyd ar yr ynys gan "[[Newyn Mawr Iwerddon|Y Newyn Mawr]]" ([[Gwyddeleg]]: ''An Gorta Mór''). Credir i tua miliwn o bobl farw o newyn a gorfodwyd i nifer llawer mwy ymfudo o Iwerddon i geisio bywoliaeth. Lleihaodd poblogaeth Iwerddon o 8 miliwn cyn y newyn i 4.4 miliwn yn [[1911]]. Yn rhannol oherwydd hyn, ac hefyd oherwydd effaith ysgolion Saesneg eu hiaith, dechreuodd y ganran o'r boblogaeth a fedrai'r iaith Wyddeleg leihau, a diflannodd yn hollol o rai ardaloedd.
Parhaodd cenedlaetholdeb yn gryf, a bu nifer o wrthryfeloedd yn ystod hanner cyntaf y [[
Yn [[1916]] bu gwrthryfel arall, [[Gwrthryfel y Pasg]], gydag ymladd ffyrnig yn ninas [[Dulyn]] dros wythnos y [[Pasg]]. Gorchfygwyd y gwrthryfel gan y fyddin Brydeinig a dienyddiwyd nifer o'r arweinwyr, yn cynnwys [[Padraig Pearse]] a [[James Connolly]]. Fodd bynnag, trodd hyn lawer o boblogaeth Iwerddon o blaid annibyniaeth lwyr. Yn [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918|Ethloliad Cyffredinol 1918]], collodd y Blaid Seneddol Wyddelig, oedd yn ceisio hunanlywodraeth, bron y cyfan o'u seddau yn Iwerddon i [[Sinn Féin]], oedd yn hawlio annibyniaeth lwyr. Roedd llawer o'r rhai a gymerodd ran yn y gwrthryfel ymysg y rhai a sefydlodd y [[Dáil Cyntaf]] yn [[1919]], yn eu plith [[Éamon de Valera]] a [[Michael Collins]]. Datblygodd rhyfel rhwng [[Byddin Weriniaethol Iwerddon]] (yr I.R.A) a'r fyddin Brydeinig a'i hunedau cynorthwyol megis y "Black and Tans". Yn [[1922]] arwyddwyd cytundeb rhwng yr arweinwyr Gwyddelig, [[Arthur Griffith]] a Michael Collins, a'r llywodraeth Brydeinig dan [[David Lloyd George]]. Roedd y cytundeb yma yn rhoi annibyniaeth i 26 o siroedd Iwerddon, gan greu [[Gweriniaeth Iwerddon]], ond gyda chwech sir yn y gogledd-ddwyrain, lle roedd y mwyafrif o'r boblogaeth yn Brotestaniaid, yn parhau yn rhan o'r Deyrnas Unedig.
|