Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Urdd Oren"

Lleihawyd o 17 beit ,  4 o flynyddoedd yn ôl
B
→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 18fed ganrif18g using AWB
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g, 18fed ganrif18g using AWB)
Sefydliad [[Protestaniaeth|Protestannaidd]], yn bennaf yng [[Gogledd Iwerddon|Ngogledd Iwerddon]], yw'r '''Urdd Oren''' ({{iaith-en|Orange Order}}). Nodweddir y sefydliad gan ei wrthwynebiad i'r [[Eglwys Gatholig]]. Rhaid i unrhyw aelod fod yn Brotestant, ac fel rheol rhaid bod o deulu Protestannaidd hefyd, er y gellir gwneud eithriadau.<ref>Tonge, Johnathan. ''Northern Ireland''. Polity, 2006. Tudalennau 24, 171, 172, 173.</ref><ref>David George Boyce, Robert Eccleshall, Vincent Geoghegan. ''Political Thought In Ireland Since The Seventeenth Century''. Routledge, 1993. Tudalen 203.</ref><ref>Mitchel, Patrick. ''Evangelicalism and national identity in Ulster, 1921–1998''. Oxford University Press, 2003. Tudalen 136.</ref>
 
Ceir gwreiddiau'r sefydliad yn rhan olaf y [[18fed ganrif18g]], a'r ymladd yn erbyn yr [[Amddiffynwyr (Iwerddon)|Amddiffynwyr]], oedd yn Gatholigion. Fe'i sefydlwyd yn [[Loughgall]], [[Swydd Armagh]], ym [[1795]]. Daw'r enw o deitl [[Tywysog Orange]], teitl gwreiddiol [[Wiliam III & II, brenin Lloegr a'r Alban]]. Daeth ef yn arwr Protestaniaid Gogledd Iwerddon yn dilyn ei fuddugoliaeth ym [[Brwydr y Boyne|Mrwydr y Boyne]]. Er nad oes cysylltiad uniongyrchol a'r lliw [[oren]], daeth y lliw yma i gynrychioli unoliaethwyr Gogledd Iwerddon.
 
Ymladdodd llawer o aelodau'r Urdd ar ochr y llywodraeth yng [[Gwrthryfel Gwyddelig 1798|ngwrthryfel 1798]]. Erbyn diwedd y [[19eg ganrif19g]], roedd ei aelodaeth wedi lleihau yn fawr, ond adfywiodd pan gododd gwrthwynebiad i annibynniaeth Iwerddon ar ran y Protestaniaid. Daeth yn elfen bwysig yng Ngogledd Iwerddon wedi rhannu'r ynys. Cynhelir gorymdeithiau blynyddol ar [[y Deuddegfed Gogoneddus]], sy'n aml yn achosi anghydfod.
 
== Gweler hefyd ==
450,625

golygiad