Constance Markievicz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: (5) using AWB
Llinell 1:
[[FileDelwedd:Countess Markiewicz.jpg|thumbbawd|400px|Iarlles Markiewicz]]
 
Roedd '''Constance Georgine Markievicz, iarlles Markievicz''' née '''Gore-Booth''' ([[4 Chwefror]], [[1868]] - [[15 Gorffennaf]], [[1927]]) yn wleidydd Gwyddelig, yn genedlaetholwraig chwyldroadol, yn [[swffragét]] ac yn sosialaidd. Ym mis Rhagfyr 1918 hi oedd y fenyw gyntaf i'w hethol i [[Tŷ'r Cyffredin|Dŷ'r Cyffredin]], er na chymerodd ei sedd. Roedd hi'n aelod o'r [[Dáil Éireann]] cyntaf. Fel Gweinidog Llafur Gweriniaeth Iwerddon, 1919-1922 roedd hi'n un o'r merched cyntaf yn y byd i ddal swydd cabinet.<ref>S. Pašeta, ‘Markievicz , Constance Georgine, Countess Markievicz in the Polish nobility (1868–1927)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Medi 2013 [http://www.oxforddnb.com/view/article/37472, accessed 19 Mawrth 2016]</ref>
Llinell 7:
Cafodd Markievicz ei geni fel Constance Georgine Gore-Booth yn Buckingham Gate, yn [[Llundain]], yn ferch hynaf i'r anturiaethwr Syr Henry Gore-Booth, 5ed barwnig a Georgina, Ledi Gore-Booth née Hill ei wraig. Roedd Syr Henry yn landlord [[Eingl-Wyddelig]] gydag ystâd 100 km2 (39 milltir sgwar), Lissadell House, ger [[Sligeach]].<ref>Lissadell House and Gardens ''Countess Markievicz'' [http://lissadellhouse.com/countess-markievicz/] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref> Yn ystod [[Newyn Mawr Iwerddon]] 1879-1880, darparodd Syr Henry fwyd rhad ac am ddim ar gyfer tenantiaid ei stâd, yn ôl rhai, ond dywed eraill iddo daflu lawer o denantiaid newynog allan o'u cartrefi gan eu rhoi ar longau (''coffin ships'') a'u hymfudo i wledydd pell.<ref>{{cite web | author= | title=The Gore-Booth and Warwick Families | work=Rootsweb Gore-Booth| url=http://homepages.rootsweb.com/~truax/gorebooth.html| accessdate=29 Mehefin 2007}}</ref>
 
[[FileDelwedd:countessmarkieviczandchildren.jpg|thumbbawd|chwith|Iarlles Markievicz, ei merch a'i llysfab]]
Addysgwyd Constance yn Ysgol Gelf Slade, Llundain<ref name="cawip">{{cite web|url=http://www.qub.ac.uk/cawp/Irish%20bios/TDs_2.htm#markievicz|title=Countess Markievicz (Constance Markievicz)|work=Centre for Advancement of Women in Politics|accessdate=19 Mawrth 2016}}</ref> ac Académie Julian, [[Paris]]. Tra'n fyfyrwraig yn Llundain ymunodd ag Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Pleidlais i Fenywod (NUWSS). Ym Mharis cyfarfu â'i darpar ŵr, Iarll Casimir Markievicz. (Pwyleg: Kazimierz Dunin-Markiewicz), artist o deulu Pwylaidd cefnog. Roedd yr Iarll yn briod ar y pryd ond bu farw ei wraig y 1899, priododd Constance yn Llundain 29 Medi 1900<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4427230|title=WOMAN MPs ARREST - The Cambria Daily Leader|date=1919-06-14|accessdate=2016-03-19|publisher=Frederick Wicks}}</ref>. Roedd gan yr Iarll mab o'i briodas gyntaf a bu un ferch o'r ail briodas.
 
Llinell 23:
 
Yn ogystal â bod yn weithgar yn y mudiad cenedlaethol parhaodd yr Iarlles gyda'r ymgyrch dros y bleidlais i fenywod. Cyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], bu'n rhaid i [[Aelod Seneddol]] oedd wedi ei godi i swydd yn y Llywodraeth sefyll isetholiad i weld a oedd ei etholwyr yn fodlon iddo dreulio amser yn y swydd yn hytrach na rhoi ei holl egni i mewn i'w cynrychioli nhw. Roedd [[Winston Churchill]] yn Aelod Seneddol [[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] etholaeth Gogledd Orllewin Manceinion; ym 1908 cafodd ei benodi yn Llywydd y Bwrdd Masnach a bu'n rhaid iddo sefyll isetholiad i gadarnhau ei benodiad. Gan fod Churchill yn groch yn erbyn caniatáu'r bleidlais i ferched bu'r swffragetiaid yn tarfu ar ei ymgyrch etholiadol. Roedd yr Iarlles Markievicz yn ei ddilyn o amgylch yr etholaeth mewn cerbyd hen ffasiwn ysblennydd yn cael ei dynnu gan bedwar ceffyl.<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4188785|title=Day Before Election - Evening Express|date=1908-04-23|accessdate=2016-03-19|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> Collodd Churchill ei sedd.
[[FileDelwedd:Walking Wounded-Fianna Éireann Scouts engaged in field medical training 1914.jpg|thumbbawd|Aelodau Fianna Éireann yn dysgu sut i drin clwyfau maes y gad]]
Ym 1909 sefydlodd Markievicz ''Na Fianna Éireann'', sefydliad sgowtiaid cenedlaetholgar para-filwrol a oedd yn dysgu bechgyn a merched yn eu harddegau sut i ddefnyddio arfau. Dywedodd [[Pádraig Pearse]] bod creu Fianna Éireann cyn bwysiced â chreu'r [[Gwirfoddolwyr Gwyddelig]] ym 1913.<ref>“I Remember The Countess” gan Ina Connolly Heron (daughter of James Connolly) – The Irish Press, 4 Chwefror 1953 [https://fiannaeireannhistory.files.wordpress.com/2015/11/ina-markievicz-article.jpg] adalwyd 19 Mawrth 2016</ref>
 
Llinell 31:
 
==Gwrthryfel y Pasg==
[[FileDelwedd:Countess Markievicz.jpg|bawd|chwith|300px|Markievicz mewn arfwisg, c.1915]]
Fel aelod o'r ICA, cymerodd Markievicz ran yng Ngwrthryfel y Pasg 1916. Cafodd ei phenodi'n is-gapten a bu'n ymladd ar faes St Stephen's Green gan oruchwylio codi gwrthgloddiau ac adeiladu ffosydd ger mynedfa'r grîn, llwyddodd i saethu ac anafu cêl-saethwr Prydeinig. Pan ddechreuodd lluoedd Prydain defnyddio gynau peiriant a saethu at y gwrthryfelwyr o ben adeiladau uchel yn ardal ogleddol y grîn, gan gynnwys gwesty'r Shelbourn, ymneilltuodd y gweriniaethwyr i Goleg Brenhinol y Llawfeddygon ar ochr orllewinol y grîn. <ref> BBC Easter Rising Profiles ''Countess Constance Markievicz
1868-1927''[http://www.bbc.co.uk/history/british/easterrising/profiles/po10.shtml] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>
 
Llwyddodd cyd-filwyr Markievicz i amddiffyn eu safle am chwe diwrnod gan roi'r gorau i'r brwydro wedi iddynt dderbyn copi o orchymyn ildio Pearse<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/3688240|title=Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd - Y Llan|date=1916-05-05|accessdate=2016-03-20|publisher=J. Morris}}</ref>. Roedd y swyddog Saesnig a dderbyniodd eu hildiant, Capten Wheeler, yn briod â chyfnither Markievicz.
[[FileDelwedd:(Ireland) Dublin Castle Up Yard.JPG|thumbbawd|300px|Castell Dulyn]]
Cawsant eu cludo i Gastell Dulyn ac oddi yno cludwyd Markievicz i [[Carchar Kilmainham|Garchar Kilmainham]]. Ymddangosodd o flaen llys milwrol ar 4 Mai 1916 gan bledio'n ddieuog i gyhuddiad o "''gymryd rhan mewn gwrthryfel arfog ... at y diben o gynorthwyo'r gelyn"'' ond yn euog o fod wedi ceisio "''i achosi anfodlonrwydd ymhlith poblogaeth sifil Ei Mawrhydi",'' fel lliniariad am y drosedd dywedodd wrth y llys'', "gwnes yr hyn roeddwn i'n meddwl oedd yn gyfiawn ac yr wyf yn sefyll wrth y peth"''. Cafodd ei dedfrydu i farwolaeth<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4021118|title=MrLloyd George yn Scotland - Y Darian|date=1918-05-30|accessdate=2016-03-20|publisher=W. Pugh and J. L. Rowlands}}</ref> ond cafodd y ddedfryd ei gymudo i garchar am oes gan ei bod hi'n fenyw; trugaredd nad oedd hi'n gwerthfawrogi gan ei bod yn casáu gwahaniaethu ar sail rhyw<ref> Cork City Gaol ''Countess Constance Markievicz''[http://corkcitygaol.com/about/famous-people/countess-constance-markievicz/] adalwyd 20 Mawrth 2016</ref>.