Y Ddraig Goch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Yn ailgyfeirio at Baner Cymru
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
#redirect[[Image:Flag of Wales.svg|thumb|Y Ddraig Goch ar [[Baner Cymru|Faner Cymru]]]]
[[Image:Welsh Dragon Memorial Mametz Wood.jpg|thumb|Cofeb Gymreig [[Brwydr Coedwig Mametz]]]]
:''Gweler hefyd [[Baner Cymru]]''.
'''Y Ddraig Goch''' yw prif symbol cenedlaethol [[Cymru]], sydd i'w weld ar [[Baner Cymru|faner genedlaethol y wlad]] (a adnabyddir ar lafar fel "Y Ddraig Goch"). Ceir sawl chwedl am y Ddraig Goch, o'r [[Oesoedd Canol Cynnar yng Nghymru|Oesoedd Canol Cynnar]] ymlaen. Cysylltir y ddraig â [[Dinas Emrys]] yn [[Eryri]] ac mae ei gwreiddiau fel symbol o'r [[Cymry]] a'u gwlad yn hen.
 
==Chwedloniaeth==
===[[Lludd a Llefelys|Chwedl Lludd a Llefelys]]===
Yn y chwedl [[Cymraeg Canol]] ''[[Lludd a Llefelys]]'', a gyfrir yn un o'r [[Mabinogion]], mae'r ddraig goch yn ymladd â draig wen sy'n ceisio goresgyn [[Ynys Brydain]]. Mae sgrechiadau'r ddraig honno yn peri i wragedd feichiog golli eu plant ac yn troi anifeiliad a phlanhigion yn anffrwythlon. Â [[Lludd]], brenin y [[Brythoniaid]], i geisio cymorth ei frawd doeth [[Llefelys]] yn Ffrainc. Mae Llefelys yn dweud wrtho i gloddio twll yng nghanol Ynys Brydain, ei lenwi â [[medd]], a'i orchuddio â llen. Gwna Lludd hyn, ac mae'r ddwy ddraig yn yfed y fedd ac yn syrthio i gysgu. Mae Lludd yn eu dwyn a'u carcharu, wedi eu lapio yn y llen o hyd, yn [[Dinas Emrys|Ninas Emrys]] yn [[Eryri]].
 
===Nennius===
Mae [[Nennius]] yn ail-gydio yn y chwedl yn ei ''[[Historia Brittonum]]'' (tua dechrau'r 9fed ganrif). Mae'r dreigiau dan Ddinas Emrys o hyd pan ddaw'r brenin [[Gwrtheyrn]] yno, ar ffo ar ôl [[Brad y Cyllyll Hirion]], a cheisio codi castell. Ond mae'n syrthio bob nos. Ymgynghora Gwrtheyrn a'i ddoethion, sy'n ei gynghori i gael hyd i fachgen heb dad naturiol, a'i aberthu ar y graig. Mae negeswyr Gwrtheyrn yn cael hyd i fachgen (a enwir yn [[Myrddin|Fyrddin]] mewn fersiynau diweddarach) yng [[Caerfyrddin|Nghaerfyrddin]]. Ar ôl clywed am ei dynged, mae'r bachgen rhyfeddol yn dweud wrth Wrtheyrn gwir ystyr y dreigiau sy'n ei boeni. Mae Gwrtheyrn yn cloddi'r graig ac yn rhyddhau'r dreigiau. Maent yn parhau i gwffio nes bod y ddraig goch wedi gorchfygu'r ddraig wen. Yna mae'r bachgen yn esbonio wrth y brenin fod y ddraig wen yn cynrychioli'r [[Eingl-Sacsoniaid]] (cyndeidiau'r [[Saeson]]) a bod y ddraig goch yn cynrychioli'r Brythoniaid, cyndeidiau'r [[Cymry]].
 
===Sieffre o Fynwy a'r brudiau===
Ceir ymhelaethiad rhamantus ar yr un chwedl gan [[Sieffre o Fynwy]] yn ei ''[[Historia Regum Britanniae]]'' (dechrau'r 12eg ganrif), lle portreadir y ddraig goch fel arwydd sy'n darogan dyfodiad [[Arthur]] fel [[Mab Darogan]]. Ceir nifer o gyfeiriadau at y ddraig yng ngherddi [[brud]] y cyfnod yn ogystal.
 
==Hanes==
Gelwir sawl arwr yn "ddragon" fel trosiad am ryfelwr yng ngwaith beirdd yr Oesoedd Canol. Un enghraifft arall yw enw [[Uthr Bendragon]], tad Arthur.
 
Gorymdeithiodd byddin [[Owain Glyndŵr]] dan faner yn cynnwys draig aur ar gefndir gwyn pan ymosododd ar [[Castell Caernarfon|gastell Caernarfon] yn [[1401]].
 
Pan laniodd [[Harri Tudur]] ym Mhenfro yn [[1485]], cododd baner gyda llun o ddraig goch [[Cadwaladr Fendigaid]] ar faes gwyrdd a gwyn arno, a ddaeth i gynrychioli Tŷ'r Tuduriaid, a raliodd nifer o Gymry ato ar ei ffordd i [[Brwydr Bosworth|Faes Bosworth]]. Cynwyswyd y Ddraig Goch yn [[arfbais]] y [[Tuduriaid]] wedyn.
 
O ddechrau'r [[19eg ganrif]] ymlaen, daeth y Ddraig Goch i fri cenedlaethol eto ac fe;i defnyddwyd gan sawl cymdeithas gwladgarol ac fel arwydd cyffredinol o Gymru a'r Cymry.
 
Yn [[1953]], mabwysiadodd y [[Swyddfa Gymreig]] yr arwyddair "Y ddraig goch dyry gychwyn" ar ei arwyddlun brenhinol. Ni wyddys pwy a gynghorodd y Swyddfa Gymreig i wneud hynny, ond mae'r llinell, sy'n dod o gerdd gan y bardd [[Deio ab Ieuan Du]], yn cyfeirio at darw yn hytrach na draig, a'r "cychwyn" yw'r weithred o genhedlu gyda buwch yn yr un cae.
 
== Dolenni allanol ==
* [http://www.bbc.co.uk/wales/history/sites/flag/ BBC Wales]
 
==Gweler hefyd==
*[[Baner Cymru]]
*[[Draig]]
 
 
[[Category:Symbolau cenedlaethol Cymru|Draig Goch]]
[[Category:Mytholeg Gymreig|Ddraig Goch]]
[[Category:Dreigiau|Ddraig Goch]]
 
[[en:Y Ddraig Goch]]
[[nl:Y Ddraig Goch]]