Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gweriniaeth Rhufain"

Lleihawyd o 30 beit ,  3 blynedd yn ôl
B
→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: y ganrif 1af CC1 CC, 2il ganrif CC2 CC, 3edd ganrif CC3 CC using AWB
B (Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q17167 (translate me))
B (→‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: y ganrif 1af CC1 CC, 2il ganrif CC2 CC, 3edd ganrif CC3 CC using AWB)
Yn y cyfnod cynnar, [[Teyrnas Rhufain|brenhinoedd]] oedd yn rheoli Rhufain. Diorseddwyd yr olaf o'r rhain, [[Tarquinius Superbus]], tua [[509 CC]]. Dan y drefn newydd, roedd dau [[Conswl Rhufeinig|gonswl]] yn cael eu hethol bob blwyddyn, fel na allai yr un ohonynt fynd yn rhy bwerus.
 
Yn raddol, concrodd y Rhufeiniaid drigolion eraill yr Eidal, megis yr [[Etrwsciaid]]. Yn ail hanner y [[3edd ganrif3 CC]], dechreuodd y cyntaf o dri rhyfel yn erbyn dinas [[Carthago]] yng ngogledd Affrica. Yn ystod yr ail o'r rhyfeloedd hyn, ymosododd [[Hannibal]] ar yr Eidal a gorchfygu'r Rhufeiniaid mewn nifer o frwydrau gyda cholledion enbyd, ond yn y diwedd gorchfygwyd yntau gan [[Scipio Africanus]].
 
Yng nganol yr [[2il ganrif2 CC]], bu rhyfel eto yn erbyn Carthago. Yn [[146 CC]] cipiwyd dinas Carthago gan fyddin dan [[Scipio Aemilianus]], ac ar orchymyn [[Senedd Rhufain|y senedd]], dinistriwyd hi yn llwyr. Yr un flwyddyn gorchfygodd byddin Rufeinig arall dan [[Lucius Mummius]] fyddin y [[Cynghrair Achaeaidd]] ym [[Brwydr Corinth (146 CC)|Mrwydr Corinth]], a daeth [[Gwlad Groeg|Groeg]] yn dalaith Rufeinig. Yn dilyn y brwydrau hyn, Rhufain oedd y grym mwyaf o gwmpas [[Môr y Canoldir]].
 
Erbyn hyn roedd pwnc y tir yn bwnc llosg yn Rhufain. Disgwylid i ddinasyddion oedd yn gwasanaethu yn y fyddin aros yn y fyddin nes gorffen ymgyrch arbennig, weithiau am flynyddoedd. Oherwydd hyn, ni allent weithio ar eu ffermydd, ac yn aml aent yn fethdalwyr. Prynwyd llawer o'r tir gan y cyfoethogion, i greu ''[[latifundia]]'', ffermydd mawr a weithid gan gaethweision. Pan ddychwelai'r milwyr i Rufain, nid oedd ganddynt fywoliaeth.
Yn [[133 CC]] etholwyd [[Tiberius Sempronius Gracchus]] yn dribwn y bobl. Cynigiodd fesurau dan yr enw ''Lex Sempronia agraria''. Dan y rhain, byddai'r wladwriaeth yn cymeryd meddiant o dir oedd wedi ei ennill yn flaenorol mewn rhyfel oddi wrth unrhyw un oedd yn dal mwy na 500 jugera (tua 310 acer, 1.3 km²). Gellid wedyn ei ddosbarthu i'r cyn-filwyr. Golygai hyn y byddai y cyfoethogion yn colli tiroedd helaeth, ac yn [[132 CC]] lladdwyd Tiberius mewn terfysg yn y ddinas. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, cyflwynodd ei frawd, [[Gaius Gracchus]], fesurau mwy radicalaidd fyth, ond lladdwyd yntau.
 
Datblygodd terfysgoedd mewnol eto yn ystod [[y ganrif 1af1 CC]], gydag ymryson rhwng [[Gaius Marius]] a [[Lucius Cornelius Sulla]], yna gytundeb i rannu grym rhwng [[Iŵl Cesar]], [[Gnaeus Pompeius Magnus]] a [[Marcus Licinius Crassus]]. Wedi i Cesar goncro Gâl, bu [[rhyfel cartref]], gyda Cesar yn gorchfygu Pompeius i gipio grym. Yn [[44 CC]] llofruddiwyd Cesar gan aelodau o'r [[Senedd Rhufain|senedd]] oedd yn credu ei fod yn mynd yn rhy bwerus. Dilynwyd hyn gan ryfel cartref arall rhwng y gweriniaethwyr, dan arweiniad [[Gaius Cassius Longinus]] a [[Marcus Junius Brutus]], a chefnogwyr Cesar dan arweiniad [[Marcus Antonius]] a gor-nai Cesar, [[Augustus|Octavianus]] (a newidiodd ei enw i "Augustus" yn ddiweddarach). Plaid Cesar fu'n fuddugol, ond yna datblygodd rhyfel rhwng Marcus Antonius ac Octavianus. Wedi buddugoliaeth dros Antonius ym [[Brwydr Actium|Mrwydr Actium]], daeth
Octavianus/Augustus yn rheolwr Rhufain.
 
418,588

golygiad