Britannia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 41 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q185103 (translate me)
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 3edd ganrif3g using AWB
Llinell 1:
: ''Mae'r erthygl yma yn trafod y dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Am ystyron eraill, gweler [[Britannia (gwahaniaethu)]]''
 
[[Delwedd:REmpire Britannica-provincia.png|thumbbawd|rightdde|200px|Talaith Britannia]]
 
'''Britannia''' oedd yr enw a roddwyd gan y [[Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]] ar y [[Talaith Rufeinig|dalaith]] a sefydlwyd ar [[Ynys Prydain]] yn dilyn y goncwest dan [[Aulus Plautius]] yn [[43]] OC, yn nheyrnasiad yr ymerawdwr [[Claudius]]. Yr oedd Britannia yn dalaith gonswlaidd, hynny yw roedd yn rhaid i lywodraethwr y dalaith fod yn [[Conswl Rhufeinig|gonswl]]. Yn nes ymlaen, yr oedd yn bosibl i’r llywodraethwr fod o radd ecwestraidd.
Llinell 7:
Dros y blynyddoedd nesaf, ymestynnwyd y dalaith i ran helaeth o'r ynys; gyda'r llywodraethwr [[Agricola]] yn ymgyrchu ymhell i ogledd [[yr Alban]]. Yn y blynyddoedd wedyn, enciliodd y Rhufeiniaid o'r gogledd. Ar rai adegau, [[Mur Antoninus]] yn yr Alban oedd ffîn y dalaith, ond ran amlaf [[Mur Hadrian]] yng ngogledd Lloegr oedd y ffîn.
 
Yn nechrau'r [[3edd ganrif3g]], rhannwyd Britannia yn ddwy dalaith, [[Britannia Superior]] a [[Britannia Inferior]]. Yn ddiweddarach, sefydlodd [[Diocletian]] bedair talaith, wedi eu cyfuno yn ''Diocese'' y Prydeiniau: [[Maxima Caesariensis]] yn y de-ddwyrain gyda’r brifddinas yn [[Llundain]], [[Flavia Caesariensis]] yn y dwyrain gyda [[Lincoln]] fel prifddinas, [[Britannia Secunda]] yn y gogledd gyda’r brifddinas yn [[Efrog]] a [[Britannia Prima]] yn y gorllewin, yn cynnwys [[Cymru]] heddiw, gyda [[Cirencester]] fel prifddinas. Bu hefyd bumed talaith, [[Valentia]], am gyfnod byr ymhellach i’r gogledd.
 
Ym mlynyddoedd olaf yr ymerodraeth Rufeinig yn y gorllewin, cododd nifer o gadfridogion o'r dalaith i hawlio'r orsedd. Yn [[383]], aeth [[Macsen Wledig]] (Magnus Maximus), a byddin o Brydain i geisio ei orseddu ei hun fel ymerawdwr. Yn [[407]], hawliodd [[Cystennin III (ymerawdwr Rhufeinig)|Cystennin III]] yr orsedd, ac aeth yntau a byddin o Brydain i [[Gâl]] i ymladd yn erbyn yr ymerawdwr [[Honorius]]. Ymddengys iddo fynd a'r rhan fwyaf o'r milwyr Rhufeinig oedd yn weddill ym Mhrydain, gan adael y dalaith yn ddiamddiffyn. Tua [[408]] daeth gweinyddiaeth sifil Rhufain i ben ar yr ynys.