Decius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
B →‎top: canrifoedd a Delweddau using AWB
Llinell 1:
[[Delwedd:Emperor Traianus Decius (Mary Harrsch).jpg|rightdde|thumbbawd|200px|Traianus Decius.]]
 
'''Gaius Messius Quintus Traianus Decius''' ([[201]] - [[1 Gorffennaf]] [[251]]) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[249]] hyd [[251]]. Cymerodd yr enw "Traianus" oherwydd ei edmygedd o'r ymerawdwr [[Trajan]].
Llinell 7:
Wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr cychwynodd Decius a'i fyddin tua Rhufain. Gorchfygasant Philip gerllaw [[Verona]], a lladdwyd ef yn y frwydr. Cydnabyddwyd Decius yn ymerawdwr gan y [[Senedd Rhufain|Senedd]]. Gwelai Decius fod yr ymerodraeth yn llwgr, a chredai mai un rheswm am hyn oedd fod yr hen werthoedd wedi eu colli. Ceisiodd ail-sefydlu yr hen arferiad o offrymu i'r hynafiaid trwy'r ymerodraeth. Daeth hyn ag ef i wrthdrawiad a'r Cristionogion, oedd yn gwrthod cymeryd rhan, ac oherwydd hynny erlidiwyd hwy gan Decius. Yn 251 cyhoeddoedd ei fab [[Herennius Etruscus]] yn gyd-ymerawdwr.
 
[[Delwedd:AV Antoninian Trajanus Decius.JPG|leftchwith|thumbbawd|Traianus Decius]]
 
Bu Decius yn ymladd yn erbyn y [[Gothiaid]] oedd wedi croesi Afon Donaw ac ymosod ar rannau o Moesia a [[Thracia]]. Yr oedd y Gothiaid yn gwarchae dinad [[Nicopolis]] ar lan Afon Donaw. Pan glywsant fod byddin Rhufain yn dynesu, croesasant y mynyddoedd i ymosod ar Filiopolis. Dilynodd Decius hwy, ond wedi iddo golli brwydr ger Beroë llwyddodd y Gothiaid i gipio Filiopolis.