Hadrian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod |
|||
Llinell 1:
[[Delwedd:Hadrien-ven.JPG|
'''Publius Aelius Traianus Hadrianus''', [[24 Ionawr]] [[76]] - [[10 Gorffennaf]] [[138]]) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o 117 hyd ei farwolaeth,
Llinell 6:
Newidiodd Hadrian bolisi Trajan o ymestyn ffiniau'r [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|ymerodraeth]] a chanolbwyntiodd ar amddiffyn ffiniau'r ymerodraeth fel yr oedd. Gollyngodd ei afael ar rai o'r tiriogaethau a goncrwyd gan Trajan yn [[Dacia]]. Fel rhan o'r un polisi adeiladodd y mur a adwaenir fel [[Mur Hadrian]] ym [[Y Brydain Rufeinig|Mhrydain]]. Ef hefyd a adeiladodd y [[Pantheon]] yn [[Rhufain]].
[[Delwedd:CRW 2684.jpg|
Fel ymerawdwr, treuliodd Hadrian lawer o'i amser yn teithio o amgylch yr ymerodraeth, a bu'n gyfrifol am lawer o adeiladu mewn gwahanol rannau ohoni. Yr oedd yn hoff iawn o [[Groeg yr Henfyd|ddiwylliant Groeg]], ac adeiladodd deml enfawr i [[Zeus]] yn [[Athen]]. Ceisiodd hefyd ail-adeiladu [[Jeriwsalem]] fel dinas Roegaidd, ond arweiniodd hyn at wrthryfel gan yr [[Iddewon]] dan arweiniad [[Simon bar Kochba]].
[[Delwedd:ac.pantheon1.jpg|
Nid oedd gan Hadrian blant, a dewisodd [[Antoninus Pius]] fel ei olynydd, ar yr amod ei fod ef yn dewis perthynas pell i Hadrian, Marcus Aurelius Verus, fel ei olynydd yntau. Yn ddiweddarach daeth Marcus Aurelius Verus yn ymerawdwr dan yr enw [[Marcus Aurelius]].
|