Eingl-Sacsoniaid: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|no}} using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 5ed ganrif5g using AWB
Llinell 1:
{{Brythoniaid}}
'''Eingl-Sacsoniaid''' yw'r term a ddefnyddir i gyfeirio at y grwpiau o bobloedd [[Germaniaid|Germanaidd]] a ymsefydlodd yn ne a dwyrain [[Prydain]] o'r [[5ed ganrif5g]] ymlaen gan raddol ddisodli'r [[Brythoniaid]] (pobloedd [[Celtaidd]]) brodorol. Fel enw mae'n gymharol ddiweddar ac, fel y gair '[[Celtiaid]]', doedd o ddim yn cael ei ddefnyddio gan y bobloedd hynny eu hunain.
 
Roedd yr Eingl-Sacsoniaid yn perthyn i sawl [[llwyth]], yn cynnwys y [[Sacsoniaid]], yr [[Eingl]] a'r [[Iwtiaid]] neu Iwys. Ar y dechrau, ffurfiodd y llwythau hyn nifer o fân deyrnasoedd annibynnol ar dir a enillwyd oddi wrth y teyrnasoedd Celtaidd brodorol. Y pennaf o'r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd hyn oedd [[Deira]] neu 'Deifr' ([[Northumbria]]), [[Mercia]] a [[Wessex]]. Mae hanes cynnar yr Eingl-Sacsoniaid yn frith â brwydrau ac ymgyrchoedd yn erbyn [[Yr Hen Ogledd|Gwŷr y Gogledd]] (teyrnasoedd [[Rheged]], [[Manaw Gododdin]], [[Elmet]] ac [[Ystrad Clud]]), y [[Cernywiaid]] a'r [[Cymry]], ond yn ogystal roeddent yn ymladd â'i gilydd am rym. Teyrnas Wessex a lwyddodd i osod seiliau teyrnas [[Lloegr]] ar ôl torri grym Mercia yn 825 a chydnabyddir y brenin [[Alffred Fawr]] fel brenin cyntaf Lloegr unedig.