Bwystori: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: tacluso a Blwch tacson using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 12fed ganrif12g using AWB
Llinell 1:
[[Image:RochesterBestiaryFolio007rLeopard.jpg|rightdde|thumbbawd|200px|"Y Llewpard" o ''Fwystori Rochester'', 13eg ganrif]]
[[Image:AberdeenBestiaryFolio005rAdamNamesAnimalsDetail.jpg|thumbbawd|rightdde|200px|Llawysgrif ''[[Bwystori Aberdeen]]'', 12fed ganrif]]
Casgliad o wybodaeth am [[bwystfil|fwystfilod]] yw '''bwystori''' neu '''bwystawr''' ([[Lladin]] '''''Bestiarum vocabulum'''''. Daeth bwystoriau yn boblogaidd yn yr [[Oesoedd Canol]] fel cyfrolau darluniedig sy'n disgrifio amryw anifeiliaid ac adar. Yn ogystal â disgrifiad o'r creaduriaid ceir fel rheol [[moeswers]] a chwedl(au) [[alegori|alegorïaidd]]. Gall yr alegorïau hynny fod yn chwedlonol neu'n perthyn i symbolaeth Gristnogol. Gellid eu hystyried yn allwedd i ddeall symbolaeth byd natur ym meddwl yr Oesoedd Canol.
 
Roeddynt yn arbennig o boblogaidd yn [[Ffrainc]] a [[Lloegr]] yn y [[12fed ganrif12g]], ond deilliant o ffynonellau cynharach. Yr enghraifft gynharaf a gafodd ei phoblogeiddio oedd cyfrol [[Groeg (iaith)|Roeg]] o'r [[2ail ganrif]] gan awdur anhysbys a adnabyddir fel y ''[[Physiologus]],'' ac roedd hynny yn ei thro yn tynnu ar wybodaeth a thraddodiadau hynafol a geir yn llyfrau rhai awduron claurol fel yr ''[[Historia Animalium]]'' gan [[Aristotlys]] a gweithiau eraill gan [[Herodotus]], [[Pliny yr Hynaf]], [[Solinus]], [[Aelian]] a naturiaethwyr eraill.
 
Helaethwyd ar y ''Physiologus'' gan Sant [[Isidore o Seville]] (Llyfr XII o'r ''[[Etymologiae]]'') a Sant [[Ambrose]], a Gristioneddiodd y cynnwys trwy dynnu ar hanesion o'r [[Hen Destament]]. Yn ddiweddarach daeth yn arfer creu bwystoriau darluniedig, e.e. ''Sallwyr Isabelle'' (Llyfrgell Daleithiol [[Munich]]). Enghraifft enwog arall yw [[Bwystori Aberdeen]], un o'r enwocaf o'r tua hanner cant o fwystoriau darluniedig sydd wedi goroesi. Lluniodd [[Leonardo da Vinci]] ei fwystori ei hun.