William Stukeley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Llyfryddiaeth: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif18g using AWB
Llinell 1:
Roedd '''y Parch. Ddr. William Stukeley''' F.R.S., F.R.C.P., F.S.A. ([[7 Tachwedd]], [[1687]] - [[3 Mawrth]], [[1765]]) yn hynafiaethydd o Sais a oedd y cyntaf i wneud astudiaeth ysgolheigaidd o hynafiaethau megis [[Côr y Cewri]] ac [[Avebury]], ac a ystyrir fel un o sylfaenwyr [[archaeoleg]] yn y maes. Roedd hefyd yn un o brif hyrwyddwyr y diddordeb newydd yn [[y Celtiaid]] yn ystod hanner cyntaf y [[18fed ganrif18g]].
 
[[Delwedd:Stukelykitscoty.jpg|thumbbawd|200px|Mae lluniau Stukeley o hynafiaethau sydd bellach wedi ei difrodi, megis Kit's Coty House yma, yn rhoi gwybodaeth werthfawr am eu ffurf wreiddiol.]]
 
Ganed Stukeley yn [[Holbeach]], [[Swydd Lincoln]], yn fab i gyfreithiwr. Graddiodd yng [[Coleg Corpus Christi, Caergrawnt|Ngholeg Corpus Christi, Caergrawnt]] cyn mynd ymlaen i astudio meddygaeth. Bu'n gweithio fel meddyg mewn nifer o leoedd. Ymddangosodd ei weithiau enwocaf ar Gôr y Cewri ac Avebury yn [[1740]] a [[1743]]. Syniad Stukeley oedd fod gan ddynoliaeth un grefydd "batriarchaidd" ar y cychwyn, oedd wedi dirywio yn ddiweddarach gyda datblygiad eilun-addoliaeth. Credai fod y [[Derwydd]]on a'r Cristionogion cynnar yn esiampl o'r grefydd yma. Ysgrifennodd lawer ar y derwyddon, gan ennill y llysenw ''the Arch-Druid.'' Yn 1729 daeth yn offeiriad, a bu'n dal dwy fywiolaeth yn Swydd Lincoln ac yn ddiweddarach yn [[Llundain]] lle bu farw ar y 3ydd o Fawrth, 1765.