Gwennol y Gofod: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
delwedd mirain iawn
B →‎Gwenoliaid gofod America: canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: using AWB
Llinell 15:
 
Lansiwyd ''Columbia'' yn 1981. Dilynwyd hi gan ''Challenger'' yn 1983, ''Discovery'' yn 1984 ac ''Atlantis'' yn 1985. Yn 1986 dinistrwyd Challenger mewn damwain ac felly fe adeiladwyd ''Endeavour'' yn ei lle a lansiwyd hi yn 1992. Yn 2003 dinistriwyd Columbia wrth iddi ddychwelyd yn ôl i'r ddaear. Defnyddiwyd Atlantis am y tro olaf yn Mai 2010. Gwnaeth Discovery ei thaith olaf gan lanio yn ôl ar y ddaear ar y 9fed o Fawrth 2011 a'r Endeavour ar y 1af o Fehefin 2011.
[[FileDelwedd:Brightly lit STS-135 on launch pad 39a.jpg|bawd|Atlantis yn 2011 yng nghanolfan ofod NASA Kennedy, Cape Canaveral.]]
 
Ystyriwyd bod yr hen system o rocedi a chapsiwlau gofod (''space capsules'') yn rhy wastraffus, achos roedd yn angenrheidiol i adeiladu roced a chapsiwl newydd sbon ar gyfer pob taith. Yn y dechreuad, y syniad oedd creu system trafnidiaeth hollol wahanol; buasai pob elfen yn cael eu hail-ddefnyddio. Cyn bo hir, fodd bynnag, roedd toriadau cyllidol wedi gorfodi NASA i newid eu cynllun gwreiddiol. Erbyn heddiw, fodd bynnag, mae llawer yn gweld y cynllun fel cam yn ôl achos namau yn y cysyniad. Cafodd Challenger a Columbia eu dinistrio mewn damweiniau marwol yn 1986 a 2003, digwyddiadau a wnaeth orfodi NASA i ystyried dychwelyd i'r hen system o gapsiwlau. Bydd y rhaglen Orion yn cyflawni hyn yn y degawd nesaf.