Utica, Efrog Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
John Jones (sgwrs | cyfraniadau)
Robert Everett
B →‎Cysylltiadau Cymreig: canrifoedd a Delweddau, replaced: 18fed ganrif18g using AWB
Llinell 5:
 
==Cysylltiadau Cymreig==
Datblygodd un o gymunedau mwyaf yr [[Americanwyr Cymreig]], ac yn sicr un o'r rhai mwyaf dylanwadol, yn Utica. Sefydlodd rhai [[Cymry]] yn yr ardal mor gynnar â diwedd y [[18fed ganrif18g]]. Ar ôl dioddef cynaeafau gwael yn 1789 a 1802 ac yn y gobaith ennill rhagor o dir, daeth mewnfudwyr Cymreig eraill i ychwanegu at y pum teulu gwreiddiol gan ymgartrefu yn nhreflannau [[Stueben]], Utica a [[Remsen]]. Y Cymry oedd y cyntaf i gyflwyno'r diwydiant [[llaeth]] i'r ardal, gan dynnu ar eu profiad yn y famwlad, a daeth [[menyn]] Cymreig yn [[nwydd]] gwerthfawr ym marchnadau Efrog Newydd. Sefydlwyd argraffweisg yn Utica ac roedd wedi'i sefydlu fel prif ganolfan diwylliannol y Cymry yn America erbyn 1830. Roedd yna 19 o gyhoeddwyr gwahanol a argraffodd tua 240 o lyfrau [[Cymraeg]], 4 cylchgrawn Ymneilltuol a'r [[papur newydd]] dylanwadol ''[[Y Drych]]''.
 
Yma y cyhoeddai [[Robert Everett]] (1791 - 1875), sawl papur a chylchgrawn, gan ymgyrchu yn erbyn [[caethwasanaeth]] pobl dduon, gan gynnwys ''Y Cenhadwr Americanaidd'' a'r ''Dyngarwr''. Cyfrifid ef yr Americanwr mwyaf poblogaeidd gan lawer. Cyhoeddai'r papurau o'i gartref yn [[Stueben]], cymuned fechan y tu allan i Utica, lle bu'n weinidog ar ddau gapel: 'Capel Uchaf' a chapel 'Penymynydd'.