Thasuka Witco: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ymhelaethu
Llinell 10:
 
==Cymeriad Thasuka Witco==
Roedd Thasuka yn gymeriad hynod a arweiniodd ei bobl er nad oedd yn bennaeth ei hun. Ceir disgrifiad da ohono gan ei gefnder [[Black Elk]] yn ei lyfr ''[[Black Elk Speaks]]''. Cafodd ei enw ar ôl cael gweledigaeth ysbrydol yn llanc ifanc. Yn y weledigaeth, aeth i wlad yr [[ysbryd]]onion mewn llewyg [[shaman]]aidd. Roedd ei geffyl gyda fo yno. Fel popeth arall yn y wlad honno, ysbryd oedd ei geffyl. Arnofiai pob dim yno a doedd dim byd yn galed. ArosoddSafai ei geffyl yn llonydd wrth ymyl Thasuka ond ar yr un pryd, yn gwbl [[paradocs|baradocsaidd]], dawnsiodddawnsiai o gwmpas yn wyllt. A dyna sut y cafodd Thasuka ei enw, sy'n cyfeirio at ei geffyl yn hytrach nag at y dyn ei hun.<ref>[[Black Elk Speaks]], tud. 85.</ref>
 
Cafodd nerth o'r weledigaeth honno. Credai yn ddiffuant pe bai'n cadw'r weledigaeth yn ei feddwl ni fyddai'n cael ei ladd mewn brwydr, a chredai ei bobl hynny hefyd. Arferai Thasuka grwydro ymhlith y [[tipi]]s heb gymryd sylw o neb, hyd yn oed y pennaethiaidpenaethiaid, ond roedd ganddo amser i'r plant bach bob tro. Yn wahanol i'r Lakotas eraill, ni fyddai byth yn canu nac yn danwsiodawnsio. Ond roedd pawb yn ei hoffi ac yn ei edmygu. Byddai'n diystyru cyfoeth personol, heb lawer o ferlod iddo'i hun fel y gwŷr mawr eraill. Gŵr byrbychan ydoedd hefyd, tenau braidd a chyda llygaid oedd yn gweld trwy bopeth. Nid oedd yn bwyta llawer ar y gorau ac yn y dyddiau duon ar ôl Brwydr Little Big Horn yn y [[Bryniau Duon]] gwrthodai fwyta er mwyn i'r plant a'r henoed gael digon.
:"Dyn rhyfeddol oedd o," chwedl Black Elk. "Efallai yr arosai o hyd yn rhannol ym myd ei weledigaeth. Roedd yn ddyn gwirioneddol fawr, ac yn fy marn i, pe bai'r ''wasichu'' (dynion gwyn) heb ei ladd i lawr fan'na, efallai'n wir y byddem ni'n byw yn y Bryniau Duon o hyd ac yn hapus. Roedd yn amhosibl iddyn nhw ei ladd o mewn brwydr agored. Bu rhaid iddyn nhw ddweud celwyddau i'w ladd. A dim ond tua tri deg oed oedd o pan gafodd ei ladd."<ref>''ibid.'', tud. 86-7.</ref>