Utamaro: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 19eg ganrif19g using AWB
Llinell 2:
Roedd '''Kitagawa Utamaro''' ([[Siapaneg]] 喜多川 歌麿) (tua [[1753]] – [[31 Hydref]] [[1806]]) yn arlunydd a gwneuthuriwr printiau bloc [[Japan|Siapanëaidd]] a ystyrir yn un o'r arlunwyr ''[[Ukiyo-e]]'' pennaf.
 
Mae Utamaro yn adnabyddus yn neilltuol am ei astudiaethau hynod o ferched, llawn awyrgylch, a elwir ''[[bijinga]]''. Cyhoeddoedd yn ogystal nifer o luniau o fyd natur, yn arbennig ar gyfer cyfres o lyfrau darluniedig am [[Trychfilod|drychfilod]]. Cyrhaeddodd ei waith [[Ewrop]] yn ail hanner y [[19eg ganrif19g]] a chafodd ddylanwad mawr ar arlunwyr [[Ffrainc]] a gwledydd eraill.
 
Ychydig sy'n hysbys am fywyd personol Utamaro a'i yrfa ac mae'r hanes yn amrywio yn ôl ei ffynhonnell. Cafodd ei eni naill ai yn [[Edo]] (dinas [[Tokyo]] heddiw), [[Kyoto]], neu [[Osaka]], neu mewn dref ranbarthol anhysbys, tua'r flwyddyn [[1753]]. Yn ôl traddodiad arall cafodd ei eni yn[[Yoshiwara]], ardal bleser enwog Edo, yn fab i berchennog tŷ te. Ei enw bedydd oedd Kitagawa Ichitaro.