Gwastadeddau Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: thumb|350px|Map sy'n dangos maint y Gwastadeddau Mawr, sy'n ymestyn trwy ganolbarth yr [[Unol Daleithiau, rhan o Ganada a rhan fach o [[M... |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 2:
Y '''Gwastadeddau Mawr''' yw'r ystod llydan o dir ''[[prairie]]'' a ''[[steppe]]'' sy'n gorwedd i'r dwyrain o Fynyddoedd y [[Rockies]] yn yr [[Unol Daleithiau]] a [[Canada]]. Mae'r rhanbarth yn cynnwys rhannau o daleithiau [[Colorado]], [[Kansas]], [[Montana]], [[Nebraska]], [[New Mexico]], [[Gogledd Dakota]], [[Oklahoma]], [[De Dakota]], [[Texas]] a [[Wyoming]] yn UDA, a thaleithiau [[Alberta]], [[Manitoba]] a [[Saskatchewan]] yng Nghanada. Yn Nghanada arferir y term ''prairie'' i'w disgrifio, a chyfeirir at y rhan o'r Gwastadeddau sydd yn y wlad honno fel [[Taleithiau'r Prairie]] neu'r "''Prairies''".
Yn hanesyddol, roedd y Gwastadeddau Mawr yn gartref i sawl llwyth o [[Rhestr pobloedd brodorol yr Amerig|frodorion Americanaidd]], ac yn eu plith y [[Sioux]], [[Blackfeet]], [[Crow]], [[Cheyenne]], [[Arapaho]], a'r [[Comanche]]. Yn y dwyrain ceid llwythau'n byw mewn pentrefi sefydlog, fel yr [[Arikara]], [[Mandan]], [[Pawnee]] a'r [[Wichita]]. Bu'n gartref i yrrau anferth o [[byffalo|fyffalo]] yn ogystal. Pan ymledodd pobl gwyn i'r gorllewin troes y Gwastadeddau yn rhan o'r ardal "ar y ffin" lle roedd y [[Gorllewin Gwyllt]] yn dechrau. Ymladdwyd nifer o frwydrau yno rhwng y brodorion a [[byddin yr Unol Daleithiau]]. Heddiw mae'r byffalo wedi mynd, y rhan fwyaf o'r brodorion yn byw ar ''reservations'', a'r tir yn cael ei gyfrif ymhlith "basgedi grawn" y byd.
==Rhaniadau daearyddol==
|