Marilyn Monroe: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g using AWB
Llinell 16:
[[Actores]] eiconaidd, [[cantores]] a [[model]] [[Yr Unol Daleithiau|Americanaidd]] oedd '''Norma Jeane Mortenson''' neu '''Marilyn Monroe''' ([[1 Mehefin]] [[1926]] – [[5 Awst]] [[1962]]), ganwyd yn [[Los Angeles]], yn yr [[Unol Daleithiau America|Unol Daleithiau]].
 
Hyd y dydd hwn mae hi'n un o'r sêr ffilm, symbolau rhyw enwocaf yr [[20fed ganrif20g]]. Treuliodd gyfnodau helaeth o'i phlentyndod mewn cartrefi maeth, cyn dechrau ei gyrfa fel [[model]] a arweiniodd at gytundeb i fod mewn ffilm ym [[1946]]
 
Ar ôl actio rhannau bach mewn ffilmiau am rai blynyddoedd daeth i gael ei hadnabod yn raddol am ei doniau digrifol, ei hapêl rywiol a'i phresenoldeb arbennig ar y sgrîn fawr. Cafodd ei canmol am ei dawn actio comedi yn y ffilm ''[[Gentlemen Prefer Blondes (ffilm)|Gentlemen Prefer Blondes]]'', ''[[How to Marry a Millionaire]]'' a ''[[The Seven Year Itch]]'' a thyfodd i fod yn un o'r actorion [[Hollywood]] mwyaf poblogaidd yn y [[1950au]]. Yn ddiweddarach yn ei gyrfa chwareuodd rannau mwy difrifol gyda rhwy fesur o lwyddiant.