Bwlgareg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 9fed ganrif9g using AWB
Llinell 14:
|iso1=bg|iso2=bul|iso3=bul}}
 
[[Ieithoedd Slafeg|Iaith Slafeg Ddeheuol]] yw '''Bwlgareg'''. Heddiw iaith swyddogol [[Bwlgaria]] yw hi, ac, yn ôl [[cyfrifiad]] Bwlgaria 2001, mae 6,697,158 o bobl yn siarad Bwlgareg fel mamiaith ym Mwlgaria (84.5% o'r boblogaeth). Ceir lleiafrifoedd Bwlgareg eu hiaith yn [[Wcrain]], [[Gwlad Groeg]], [[Twrci]] ac yn gyffredinol dros wledydd y Balcanau. Mae cyfanswm o 8–9 miliwn o bobl yn ei siarad. Ysgrifennir Bwlgareg â'r [[gwyddor Gyrilig|wyddor Gyrilig]]. Mae cyfnodion yr iaith yn dyddio i'r [[9fed ganrif9g]], pan gynhyrchiwyd nifer o [[llawysgrif|lawysgrifau]] ym Mwlgaria yn [[Hen Slafoneg Eglwysig]], iaith lenyddol gyntaf y [[Slafiaid]], wedi'i seilio ar dafodieithoedd Slafeg [[Macedonia (rhanbarth)|Macedonia]] a Bwlgaria. Parhaodd traddodiad llenyddol llewyrchus yn yr iaith yn y cyfnod [[Bwlgareg Canol]] (12fed ganrif – 15fed ganrif), ond dirywiodd ei statws yn ystod rheolaeth yr Otomaniaid. Crëwyd iaith safonol newydd yn y bedwaredd ganrif ar ddeg fel rhan o ddiwygiad cenedlaethol Bwlgaria. Mae'r iaith gyfoes yn wahanol iawn i Hen Slafoneg Eglwysig. Mae wedi colli'r system gymhleth o [[cyflwr enwol|gyflyrau enwol]] oedd gan yr iaith honno, ac wedi profi nifer o gyfnewidiadau fel rhan o [[ardal ieithyddol y Balcanau]] sydd wedi dod â hi'n nes yn ei strwythur at ieithoedd o grwpiau eraill megis [[Groeg]], [[Albaneg]], [[Rwmaneg]] a [[Tyrceg|Thyrceg]].
 
== Orgraff ==