Paris: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Iojhug (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 31:
Cychwynnodd hanes y dref ar ynys o'r enw [[Île de la Cité]] yn yr afon Seine. Heddiw mae'r ''[[Palais de Justice]]'' a'r eglwys gadeiriol ''[[Notre-Dame de Paris]]'' ar yr ynys hon. Gyferbyn â'r Île de la Cité mae ynys arall, yr ''[[Île Saint-Louis]]'', sy ddim mor fawr. Ar honno, mae tai cain a adeiladwyd yn ystod y [[17eg ganrif|ail ganrif ar bymtheg]] a'r [[18fed ganrif|deunawfed ganrif]].
 
[[Delwedd:Blason paris 75Grandes_Armes_de_Paris.svg|bawd|chwith|180px|Arfbais Paris]]Cyn i'r [[yr Ymerodraeth Rufeinig|Ymerodraeth Rufeinig]] gyrraedd ym [[52 C.C.]] roedd llwyth [[Galaidd]] yn byw yno. Roedd y Rhufeinwyr yn eu galw nhw'n [[Parisii (Gâl)|Parisii]] er eu bod nhw eu hunain yn galw'r dref yn ''[[Lutetia]]'', sef "lle corsog". Tua 50 o flynyddoedd ar ôl hyn datblygodd rhan newydd o'r dref ar ochr chwith i'r afon (y ''[[Quartier Latin]]'' heddiw) a newidiwyd enw'r dref i "Baris".
 
Daeth rheolaeth Rhufain ym Mharis i ben ym [[508]] pan ddaeth y dref yn brif ddinas y [[Merofingiaid]] o dan [[Clovis I]]. O achos goresgyniad yr ardal gan [[y Llychlynwyr]] yn yr [[8fed ganrif|wythfed ganrif]] roedd rhaid adeiladu caer ar ynys yng nghanol yr afon Seine. Beth bynnag, daeth y Llychlynwyr (efallai o dan [[Ragnar Lodbrok]]) i Baris i feddiannu ar y dref ar [[28 Mawrth]] [[845]]. Er mwyn eu perswadio nhw i adael, roedd rhaid gasglu pridwerth mawr iawn.