Amsterdam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Danielt998 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g, 12fed ganrif12g using AWB
Llinell 26:
Er mai prifddinas swyddogol yr Iseldiroedd yw Amsterdam, nid hi fu canolfan y llywodraeth erioed. Lleolir canolfan y llywodraeth, y senedd a thrigfan y frenhines i gyd yn [[Den Haag]]. Nid yw Amsterdam yn brifddinas o'i thalaith ei hun chwaith: prifddinas Gogledd Holland yw [[Haarlem]].
 
Daw enw'r ddinas o'r Argae Amstel (''yn Saesneg: Amstel Dam'') sy'n esbonio tarddiad y ddinas; argae ar yr afon Amstel lle mae [[Sgwâr Dam]] wedi'i lleoli heddiw. Sefydlwyd pentref bychan yno yn ystod y [[12fed ganrif12g]] a ddatblygodd yn un o borthladdoedd pwysicaf y byd yn ystod yr Oes Aur Iseldireg, o ganlyniad i'w datblygiad masnachol arloesol. Yn ystod y cyfnod hwnnw, ystyriwyd y ddinas yn ganolfan flaenllaw ar gyfer masnach a [[deiamwnt]]iau. Ehangodd y ddinas yn ystod y [[19eg ganrif|19eg]] a'r [[20fed ganrif20g]], wrth i gymdogaethau maesdrefi newydd gael eu sefydlu.
 
Amsterdam yn canolbwynt ariannol a diwylliannol yr Iseldiroedd. Lleolir nifer o sefydliadau Iseldireg mawrion yno ac mae 7 o 500 o gwmnïau mwyaf y byd, gan gynnwys Philips ac ING wedi'u sefydlu yn y ddinas. Lleolir Cyfnewidfa Stoc Amsterdam, sy'n rhan o Euronext, yng nghanol y ddinas. Yn flynyddol, daw 4.2 miliwn o dwristiaid i weld atyniadau'r ddinas, sy'n cynnwys ei chamlesi hanesyddol, y Rijksmuseum, Amgueddfa [[Van Gogh]], Tŷ [[Anne Frank]], yr [[ardal golau coch]] a'r siopau coffi [[canabis]].