India: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
A.Savin (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g, 18fed ganrif18g, 12fed ganrif12g, 3edd ganrif3g, 3edd ganrif CC3 CC using AWB
Llinell 110:
Mae hanes India yn dechrau gyda dechreuad sefydliadau parhaol tua 9,000 o flynyddoedd yn ôl. Yn yr ardal o amgylch [[Afon Indus]], datblygodd rhain i greu [[Gwareiddiad Dyffryn Indus]] tua 3300 CC.; un o'r gwareiddiadau cynharaf yn hanes dynoliaeth. Dilynwyd y cyfnod yma gan y [[Cyfnod Fedig]], pan osodwyd seiliau crefydd [[Hindwaeth]]. O tua 550 CC. sefydlwyd nifer o deyrnasoedd a elwid y [[Mahajanapadas]] ar draws y wlad.
 
Yn y [[3edd ganrif3 CC]], roedd India a rhannau eraill o dde Asia yn rhan o [[Ymerodraeth Maurya]] dan [[Ashoka Fawr]]. O tua 180 CC bu nifer o ymosodiadau ac ymfudiadau o'r gogledd. O'r [[3edd ganrif3g]] OC sefydlwyd [[Ymerodraeth y Gupta]].
 
O'r [[12fed ganrif12g]] ymlaen, daeth gogledd India gan ddylanwad rheolwyr [[Islam]]aidd, yn wreiddiol o Ganolbarth Asia; yn gyntaf [[Swltaniaeth Delhi]], ac yn ddiweddarach [[Ymerodraeth y Mughal]]. Yn ne India, roedd nifer o deyrnasoedd brodorol, megis [[Ymerodraeth Vijayanagara]]. Ganychodd pwer y Mughal yn y [[17eg ganrif|17ed]] a'r [[18fed ganrif18g]], a daeth [[Ymerodraeth Maratha]] yn bwerus. Yn ystod y 18fed ganrif, dechreuodd nifer o wledydd Ewropeaidd sefydlu tiriogaethau, ac erbyn [[1856]], roedd y rhan fwyaf o India yng ngafael y ''[[Honourable East India Company|British East India Company]]''.
 
Y flwyddyn wedyn bu gwrthryfel ar raddfa fawr, [[Gwrthryfel India 1857]]. Cafodd y gwrthryfelwyr gryn lwyddiant at y cychwyn, ond yn y diwedd gorchfygwyd hwy gan y fyddin Brydeinig. Daeth India'n rhan o'r [[Ymerodraeth Brydeinig]].
 
Dechreuodd mudiad cenedlaethol ym mlynyddoedd cynnar yr [[20fed ganrif20g]], ac yn y 1920au a'r 1930au bu cyfres o brotestiadau di-drais dan arweniad [[Mahatma Gandhi]]. Ar [[15 Awst]] [[1947]], daeth India yn wlad annibynnol, ond daeth rhan o'i thiriogaeth yn wlad [[Pacistan]]. Dair blynedd yn ddiweddarach, ar [[26 Ionawr]] [[1950]], daeth India yn weriniaeth.
 
Ers hynny, bu rhyfel a [[China]] yn [[1962]] ynghylch y ffîn yn y gogledd-ddwyrain, a bu tri rhyfel yn erbyn Pacistan, yn 1947, 1965 a 1971. Yn 1974, arbiorfodd India fom atomig, gydag arbrofion pellach yn 1998. Ers newidiadau economaidd yn [[1991]], mae economi India wedi tyfu'n gyflym, ac o ganlyniad mae dylanwad rhyngwladol y wlad wedi cynyddu.