Y Deyrnas Unedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Pne (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: canrifoedd a Delweddau, replaced: 20fed ganrif20g, 19eg ganrif19g using AWB
Llinell 57:
Daeth Lloegr yn deyrnas unedig yn y 10fed ganrif. Daeth Cymru, a fu dan reolaeth Seisnig ers [[Statud Rhuddlan]] ym [[1284]], yn rhan o [[Teyrnas Lloegr|Deyrnas Lloegr]] at bwrpasau deddfwriaethol trwy [[Deddf Uno 1536|Ddeddfau Uno 1536]]. Gyda [[Deddf Uno 1707]], cytunodd seneddau [[Lloegr]] a'r [[Yr Alban|Alban]] i uno eu teyrnasoedd fel [[Teyrnas Prydain Fawr]] (er iddynt rannu'r un brenin er [[1603]]). Ym [[Deddf Uno 1800|1800]], cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr â [[Teyrnas Iwerddon|Theyrnas]] [[Iwerddon]] (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o [[1169]] hyd [[1603]]) i greu [[Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon]]. Wedi cread y [[Gweriniaeth Iwerddon|Dalaith Rydd Wyddelig]] ym [[1922]], allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth honno ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym [[1927]].
 
Chwaraeodd y Deyrnas Unedig, gwladwriaeth ddominyddol y [[19eg ganrif19g]] mewn diwydiant a grym morwrol, rôl sylweddol yn natblygiad [[democratiaeth]] [[senedd]]ol, ynghyd â chyfraniadau pwysig ym myd [[gwyddoniaeth]]. Yn anterth ei grym teyrnasai'r [[Ymerodraeth Brydeinig]] dros chwarter y ddaear. Yn ystod hanner cyntaf yr [[20fed ganrif20g]] gwanhaodd nerth y DU, yn rhannol oherwydd y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ail hanner y ganrif gwelwyd datgymalu'r Ymerodraeth a chryfhau cysylltiadau â'r [[Ewrop]] fodern a llewyrchus. Serch hynny, er bod y DU yn aelod o'r [[Undeb Ewropeaidd]], mai gwahaniaeth barn ynghylch cryfhau'r cysylltiad gyda'r gwrthwynebiad yn gryfach yn Lloegr. Mae diwygiad cyfansoddiadol yn fater dadleuol ar hyn o bryd: mae [[Tŷ'r Arglwyddi]] wedi cael ei ddiwygio'n ddiweddar ac mae gan Gymru, Gogledd Iwerddon a Llundain gynulliadau gyda graddau gwahanol o bŵer; fe sefydlwyd hefyd senedd yn yr Alban. Ystyrir hefyd cynlluniau ar gyfer cynulliad annibynnol ar gyfer Lloegr. Mae mudiad Gweriniaeth Brydeinig yn cael sylw yn y cyfryngau o bryd i'w gilydd, er bod cefnogaeth i'r frenhiniaeth Brydeinig yn dal i fodoli, yn enwedig yn Lloegr, ond heb fod mor gryf ag yr oedd hi yn y gorffennol: ond dydy'r syniad o gael Gweriniaeth Brydeinig ddim yn cael ei gefnogi gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.
 
Mae'r Deyrnas Unedig yn aelod o'r [[Y Gymanwlad|Gymanwlad]], [[Undeb Ewrop]] a [[Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd]] ([[NATO]]). Mae hefyd yn aelod parhaol o [[Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig|Gyngor Diogelwch]] y [[Cenhedloedd Unedig]], gyda phŵer gwaharddiad.