Sgrafelliad (daeareg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
B canrifoedd a Delweddau, replaced: [[File: → [[Delwedd: (2) using AWB
Llinell 1:
[[FileDelwedd:Sar80e.jpg|bawd|Arfordir Gwlad Pwyl gan ddangos erydu arfordirol.]]
[[FileDelwedd:Glacial striation 21149.JPG|thumbbawd|rightdde|Sgrafelliadau ar greigiau ym Mharc Cenedlaethol Mount Rainier National Park, [[U.D.A.]]]]
Crafiad mecanyddol yw '''sgrafelliad''' sy'n digwydd pan fo un graig yn crafu wyneb craig arall. Mae'r creigiau, neu'r tameidiau mân o gerrig yn naddu'r wyneb wrth iddynt gael eu symud gan y [[gwynt]], [[rhewlif]], [[ton]]nau, [[disgyrchiant]] [[erydiad]] neu [[dŵr|ddŵr rhedegog]]. Mae ffrithiant yn rhan o'r broses hon o sgrafellu, drwy rwbio yn erbyn darnau rhydd neu wan oochr y graig gan achosi i rannau ohono ddod yn rhydd.
 
Llinell 9:
 
==Sgrafelliad rhewlifol==
[[Image:Glacial-abrasion-ss-2006.jpg|thumbbawd|Creigiau a greithiwyd gan [[Rhewlif|rewlifau]] yng ngorllewin [[Norwy]] ger Rhewlif Jostedalsbreen.]]
Sgrafelliad rhewlifol (''glacial abrasion'') yw’r erydiad a achosir pan fo rhewlif wedi’i arfogi â llwyth gwely (''bed load'') o greigiau maluriedig, gan gynnwys blawd craig (''rock flour''), yn crafu, treulio ac yn caboli arwynebau’r creigiau y mae’n llifo trostynt. Gronynnau tywod bras (0.06–2 mm) a chlastiau brasach yn sownd yng ngwadn rhewlif sy’n erydu drwy grafu, gan greu rhychiadau a rhigolau, tra bod deunydd sgrafellog manach, yn arbennig gronynnau silt (0.004–0.06 mm), yn bennaf cyfrifol am gaboli arwynebau creigiau, yn enwedig creigiau mân-ronynnog, megis [[llechfaen]]. Gwahaniaethir rhwng rhychiadau (a all fod mor fân fel bod angen [[chwyddwydr]] i’w gweld) a rhigolau nid yn unig o ran eu hyd ond hefyd eu dyfnder. Fel rheol, anaml y mae’r rhychiadau hwyaf yn fwy na metr neu ddau o hyd ac ychydig filimetrau o ddyfnder, ond gall rhigolau unigol fod 1–2 m o ddyfnder a 50–100 m o hyd.