Cap Bon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Tunisia → Tiwnisia, dileu cat dwbl
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 17eg ganrif17g, 7fed ganrif7g, 3edd ganrif3g using AWB
Llinell 6:
Cyfeirir at Cap Bon fel gwlad ffrwythlon a breswylid gan bobl [[Berberiaid|Berber]] mewn cofnodion Groeg a Lladin. Bu Cap Bon yn dyst i sawl brwydr am ei fod yn benrhyn o bwys strategol mawr yng nghanol Môr y Canoldir. Ymosododd [[Agathocle]] o [[Syracuse]] arno yn [[310 CC]]; hanner can mlynedd yn ddiweddarach ceisiodd y Rhufeinwr [[Regulus]] ei gipio yn y rhyfel cyntaf rhwng Carthage a Rhufain; o'r diwedd yn [[148 CC]], cafodd ei oresgyn gan y Rhufeiniaid. Erbyn canol y ganrif 1af CC roedd sawl dinas Rufeinig yng Nghap Bon, e.e. ''Carpis'', ''Clupea'' ([[Kelibia]]), ''Curubis'' ([[Korba]]) a ''Neapolis'' ([[Nabeul]]).
 
[[Delwedd:ElHaouria latomies.jpg|250px|bawd|chwith|Chwareli-ogofâu Ffenicaidd [[El Haouaria]]]]O ganol y [[3edd ganrif3g]] OC hyd at dyfodiad yr [[Arabiaid]], ceir tystiolaeth fod [[Cristnogaeth]] yn elfen beysig ym mywyd Cap Bon. Fel gweddill Tiwnisia, cafodd y Cap ei arabeiddio a'i [[islam]]eiddio o'r [[7fed ganrif7g]] ymlaen. Codwyd sawl ''ksar'' (caer) ar yr arfordir i'w amddiffyn, e.e. Ksar Korbous a Ksar Nouba yn y gorllewin, a Ksar Kelibia, Ksar Lebna, Ksar Korba, a Ksar Nabeul yn y dwyrain. O ddechrau'r [[17eg ganrif17g]], daeth nifer o ffoaduriaid Mwslem o [[Andalucia]] (y [[Morisgiaid]]) i fyw yno, yn arbennig yn Grombalia, Turqui, Belli, Nianou a Soliman, lle gwelir eu pensaerniaeth hyd heddiw. Yn yr [[Ail Ryfel Byd]], ildiodd yr [[Afrikakorps]] Almaenig yno, yn Ebrill a Mai, [[1943]].
 
Mae'r enw Cap Bon yn cyfeirio yn ogystal at y penrhyn cyfan sy'n ymestyn cyn belled â [[Hammamet]] i'r de ac i [[Soliman]] yn y gorllewin. Mae'r penrhyn yn mesur 80 km o hyd a rhwng 20 a 50 km o led. Mae'n cynnwys talaith (''gouvernorat'') [[Nabeul (talaith)|Nabeul]] a threfi [[Grombalia]], [[Hammamet]], [[Kelibia]], [[El Haouaria]], [[Menzel Bouzelfa]], [[Menzel Temime]], [[Nabeul]], a [[Soliman]], yn ogystal â safle archaeolegol [[Ffenicia|Ffenicaidd]] [[Kerkouane]], sydd ar restr [[Safleoedd Treftadaeth y Byd]] [[UNESCO]].