Sisili: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Cysylltiad Allanol: remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|hr}} (2) using AWB
B →‎Hanes: canrifoedd a Delweddau, replaced: 9fed ganrif9g using AWB
Llinell 27:
Ymsefydlai'r [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid]] ar yr ynys o'r [[8fed ganrif CC]] ymlaen. Meddianwyd rhan o'r ynys gan y [[Carthago|Carthaginiaid]] yn fuan ar ôl hynny a bu cryn ymrafael rhwng y ddwy blaid am rai canrifoedd. Fe'i meddianwyd gan y [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufeiniaid]] yn ail hanner y [[3edd ganrif CC|drydedd ganrif CC]] ac erbyn [[211 CC]] roedd yn [[Sicilia (talaith Rufeinig)|dalaith Rufeinig]].
 
Goresgynwyd yr ynys gan yr [[Arabiaid]] yn y [[9fed ganrif9g]] a datblygodd diwylliant hybrid unigryw ar yr ynys. Yn [[1060]] cyrhaeddodd y [[Normaniaid]] a meddianwyd yr ynys ganddynt yn eu tro. Yn [[1266]] coronwyd [[Siarl I, brenin Napoli a Sisili]] yn frenin [[Angevin]]aidd cyntaf Sisili. Cwnwerwyd yr ynys gan deyrnas [[Aragon]] yn [[1284]] yn sgîl [[Cyflafan y Gosber Sisiliaidd]].
 
Creuwyd [[Teyrnas y Ddwy Sisili]] yn [[1815]] gan [[Ferdinand I o Awstria a Hwngari]]. Cipiodd [[Garibaldi]] yr ynys yn [[1860]] ac unwyd Sisili â gweddill yr Eidal. Am flynyddoedd bu hanes yr ynys yn ansefydlog a llawn tensiynau cymdeithasol oherwydd cyflwr economaidd y wlad, [[tlodi]] a grym y [[Maffia]] a cheidwadwyr eglwysig. Ymfudodd nifer fawr o Sisiliaid tlawd i'r [[Unol Daleithiau]] oherwydd hynny.