Bawd Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB |
B →top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 17eg ganrif → 17g using AWB |
||
Llinell 3:
[[Chwedl werin]] ac arwr y chwedl honno, a gyhoeddwyd wrth y teitl ''Le Petit Poucet'' gan [[Charles Perrault]] yn y gyfrol ''[[Les Contes de ma mère l'Oye]]'', yn [[1697]] yw '''Bawd Bach''' ([[Ffrangeg]] ''Petit Poucet''; [[Saesneg]] ''Tom Thumb'').
Yn y chwedl mae'r wlad yn dioddef [[tlodi]] a [[newyn]] ofnadwy (adlewyrchiad o'r byd go iawn yng nghefn gwlad [[Ffrainc]] sawl gwaith yn yr [[
Ond mae'r arian yn rhedeg allan ac mae'r rhieni yn penderfynu gadael y palnt yn y goedwig unwaith eto. Maent yn cau'r Bawd Bach i fyny fel na all adael cerrig ar y llwybr ac mae'r plant yn cael eu hunain ar goll yn y goedwig fawr. Crwydrant a dod i fwthyn a gofyn i aros yno. Ond mae'r wraig sy'n byw yno yn ceisio eu perswadio i fynd oddi yno am fod ei ŵr yn [[ellyll]] sy'n bwyta plant. Gwell gan y brodyr, sydd ar fin llwgu, siawnsio hynny nac aros yn y goedwig i newynu. Gyda'r nos mae'r wraig yn eu cuddio mewn gwely ond daw'r ellyll i mewn a'u darganfod. Y cwbl mae'r wraig yn medru wneud ydy perswadio'r ellyll i aros tan fory cyn eu bwyta. Yn y nod mae Bawd Bach yn cyfnewid capiau cysgu y brodyr am daleithiau aur saith ferch yr ellyll rhag ofn iddo geisio eu bwyta yn eu cwsg. Daw'r ellyll i mewn a bwyta'r saith ferch gan gredu ei fod yn bwyta'r brodyr. Dihangant wrth i'r ellyll wledda ar ei blant ei hun. Rhed ar eu holau, gan wisgo ei esgid uchel. Wedi blino ar ôl rhedeg, mae'n eistedd ar garreg y mae'r palnt yn cuddio o dan hi. Mae'r Bawd Bach yn perswadio ei frodyr i ddianc adref tra ei fod yn dwyn y sgidiau uchel ac yn rhedeg i fwthyn yr ellyll. Mae'n dweud wrth y wraig fod herwyr y coed wedi dal ei ŵr ac yn gofyn ransom amdano; esbonia fod yr ellyll wedi rhoi benthyg ei sgidiau iddo iddo allu gyrraedd yn fuan. Mae'r wraig yn ei gredu ac yn rhoi'r trysor iddo ac aiff y Bawd Bach adre gyda'r cyfoeth, er mawr lawenydd ei frodyr a'i rieni.
|