Yr ocwlt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 43 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q178934 (translate me)
B →‎Crefydd a'r ocwlt: canrifoedd a Delweddau, replaced: 17eg ganrif17g using AWB
Llinell 19:
Mae rhai enwadau crefyddol yn gweld yr ocwlt i fod un rhywbeth goruwchnaturiol sydd ddim yn cael ei gyflawni gan neu drwy [[Duw|Dduw]], ac felly rhywbeth sy'n hanu o endid maleisus a gwrthwynebol. Mae gan y gair arwyddocâd negyddol i lawer o bobl, ac er bod llawer o ymarferion a ystyrier gan rai i fod yn "ocwlt" i'w darganfod o fewn y crefyddau mawr, yn y cyd-destun hwn ni ddefnyddier y term "ocwlt" yn aml.
 
Yn [[Iddewiaeth]], caniateir astudiaethau ysbrydol arbennig fel y [[Cabbala]] i rai unigolion (fel [[Rabi|rabiniaid]] a'u myfyrwyr dethol). Nid yw'r astudiaethau hyn yn cydffurfio â defodau cyffredin Iddewiaeth. Hefyd mae rhai ffurfiau o [[Islam]] yn caniatáu i [[Ysbryd|ysbrydion]] gael eu gorchymyn yn enw Duw i wneud gweithredoedd cyfiawn a chynorthwyo Mwslemiaid da. Ceir hefyd canghennau cyfriniol o [[Cristnogaeth|Gristnogaeth]] sy'n ymarfer [[Darogan|darogan]], [[Bendith|bendithio]], neu apelio i [[Angel|engyl]] am ymyriadau. Mae [[Rhosgroesiaeth]], un o ganghennau cyfriniol enwocaf Cristnogaeth, wedi dylanwadu ar y rhan fwyaf o ocwltiaeth Gristnogol ers y [[17eg ganrif17g]].
 
Mae [[Tantra]], sy'n hanu o [[India]], yn cynnwys ymhlith ei ganghennau amrywiol amrywiaeth o ymarferion defodol fel ymarferion dychmygu a chanu [[Mantra|mantra]] i ddefodau cymhleth sy'n cynnwys [[Cyfathrach rywiol|cyfathrach rywiol]] ac [[Aberth|aberth]] anifeiliaid, weithiau i'w perfformio mewn lleoedd gwaharddedig fel tiroedd [[Amlosgiad|amlosgiad]].