Iddewiaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 195.194.13.3 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan 86.180.247.77.
Llinell 7:
Yn 2007, amcangyfrifwyd poblogaeth Iddewig y byd yn 13.2 miliwn, gyda 41% ohonynt yn byw yn [[Israel]] a'r 59% arall ar wasgar. Sylwer nad ydy Iddewiaeth yr un peth â [[Seioniaeth]], mudiad Iddewig y gwrthodir ei syniadaeth gan nifer o Iddewon, e.e. y [[Neturei Karta]].
 
Yn ôl traddodiad, mae'r hanes Iddewig yn dechrau gyda'r Cyfamod rhwng [[Duw]] ac [[Abraham]], sef patriarch a chyndad y bobl Iddewig, tua 2000 CC yn ôl y gronoleg Feiblaidd draddodiadol. Iddewiaeth yw un o'r crefyddau hynaf mewn bodolaeth heddiw. Mae athrawiaethau a hanes Iddewiaeth wedi dylanwadu'n fawr ar grefyddau eraill gan greu'r sylfaen ar gyfer y [[crefyddau Abrahamig]] mawr eraill, sef [[Cristnogaeth]] ac BCC NEWS [[Islam]].
 
Mae Iddewiaeth yn wahanol iawn i nifer o grefyddau cyfoes mor bell â ni welir awdurdod yn un person neu grŵp, ond yn hytrach mewn testunau sanctaidd, traddodiadau a [[Rabbi|rabbïau]] addysgedig sy'n dehongli'r testunau a chyfreithiau. Drwy'r oesoedd mae Iddewiaeth wedi glynu at nifer o egwyddorion crefyddol, y pwysicaf ohonynt yw'r cysyniad o un [[Duw]] hollalluog a hollwybodol a greodd y [[bydysawd]] ac sy'n parhau i'w reoli. Yn ôl cred Iddewig draddodiadol, gwnaeth y Duw a greodd y byd gadarnhau cyfamod gyda'r Israeliaid drwy [[Moses]] ar [[Mynydd Sinai|Fynydd Sinai]] yn ffurf y Torah ysgrifenedig ac ar lafar. Credant taw disgynyddion yr Israeliaid yw holl Iddewon y byd. Mae Iddewiaeth ymarferol draddodiadol yn seiliedig ar yr astudiaeth a chadwraeth rheolau a gorchmynion Duw fel y cawsant eu hysgrifennu yn y Torah a'u hesbonio yn y Talmud.