Al-lâh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 94 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q234801 (translate me)
B →‎top: canrifoedd a Delweddau, replaced: 7fed ganrif7g using AWB
Llinell 4:
 
[[Delwedd:Allah-green.svg|170px|bawd|chwith|Y gair Al-lâh mewn ysgrifen Arabaidd]]
Yn ystod y cyfnod cyn-Islamaidd yn y [[Dwyrain Canol]], yn arbennig yn nheyrnasoedd De Arabia, roedd y syniad o Dduw goruchaf eisoes yn cael ei gynrychioli gan y gair ''Allah'' (enw gwrywaidd yw ''allâh'' ond ceid hefyd y gair benywaidd ''allâaha'' neu ''al-Lât''); roedd yno duw Arabaidd o'r un enw hefyd. Ceir yr enw Allah yn y ffurf [[Semitaidd]] HLH mewn arysgrifau o [[Palesteina|Balesteina]] sy'n dyddio o'r 5fed ganrif CC. Fe'i ceir hefyd yn y ffurf ''Hallâh'' mewn arysgrif o Saffa yn [[Yemen]] o'r ganrif 1af a hefyd mewn arysgrif Gristionogol o Umm al-Jima yn [[Syria]] o'r [[7fed ganrif7g]]. Addolwyd ''Hallâh'' ym [[Mecca]] fel un o dduwiau llwythol y Qurayshites, llwyth [[Mohamed]]. Enw tad Mohamed oedd Abdallah ("mab neu ddisgynydd Allah"). Fel canlyniad i bregethu Mohamed collodd yr enw Allah bob cysylltiad â'r duw paganaidd lleol a datblygodd i fod yr hyn ydyw heddiw, sef y prif enw ar y Duw goruchaf gyda'r syniad o'i undod a'i unigolrwydd ymhlyg yn hynny; cysyniad a fynegir yng nghymal gyntaf y fformiwla ''shahâda'', sy'n ganolog i Islam ac yn grynodeb o'r gred honno: ''Lâ Ilaha illâ Allâh'', "Nid oes duw arall ond Duw."
 
== Cyfeiriadau ==